|
|
|||
|
||||
OverviewFull Product DetailsAuthor: Myrddin ap DafyddPublisher: Cyhoeddiadau Barddas Imprint: Cyhoeddiadau Barddas ISBN: 9781906396848ISBN 10: 1906396841 Pages: 200 Publication Date: 20 July 2015 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: Temporarily unavailable The supplier advises that this item is temporarily unavailable. It will be ordered for you and placed on backorder. Once it does come back in stock, we will ship it out to you. Language: Welsh Table of ContentsReviewsMae hon yn gyfrol sy'n eich gwahodd eich temtio, yn wir i'w chodi a'i bodio. Daw'r demtasiwn hon nid oherwydd ei bod yn gyfrol fawr, hardd a drud yr olwg. Cyfrol fechan ydyw, ond mae ei diwyg, ei rhwymiad a hyd yn oed natur y papur yn ddeniadol. Cyfrol am ein barddoniaeth hynaf fel cenedl sydd yma, sef canu Heledd a chanu Llywarch Hen, ac y mae hynny hefyd yn ychwanegu at ei hapl. Mewn rhagair difyr a hynod ddarllenadwy mae Myrddin ap Dafydd yn nodi nad oes ganddo gymhwyster penodol i drafod y maes hwn heblaw am 'cerdd dafod, cariad at ddarllen mapiau a hoffter o wneud jig-sos, a dwi ddim yn amau nad yw cariad at genedl a phryder gwirioneddol am ei pharhad yn gymhwyster arall y gellid ei ychwanegu. Mae'r cymhwyster hwnnw'n amlwg iawn drwy'r gyfrol ar ei hyd. Mae'r rhagair yn crynhoi'r cymhwysterau y mae Myrddin yn eu rhestru, oherwydd y mae'r awdur yn disgrifio'i hun yn chwilio am le o'r enw Rhodrwydd Forlas y mae cyfeiriad ato yng nghanu Llywarch Hen. Dilyna nant o'r enw Morlas i'r dwyrain o afon Ceiriog, gan sefyll yng nghanol y rhyd ar y nant honno, man lle y cred y bu Llywarch Hen yn sefyll arno, a'r fan lle lladdwyd Gwn ei fab wrth iddo amddiffyn y ffin. Mae'n fan emosiynol a dirdynnol, ac mae'r emosiwn hwnnw wedi'i gostrelu yng ngeiriau'r rhagair ac mae i'w deimlo drwy weddill y gyfrol. Profiad digon rhyfedd oedd darllen y gyfrol yma wrth deithio ar y trn o Aberystwyth tuag at Amwythig, a theithio drwy'r union fannau y cyfeirir atynt, mannau y brwydro mawr a'r gwarchod ffiniau. Ond prin iawn oedd y Gymraeg ar y trn y bore hwnnw; nid brwydr a ddaeth i ben yw hon, ac y mae Myrddin ap Dafydd yn gwreiddio bwriad y gyfrol yn yr ymdrech gyfoes i gadw'r ffin a diogelu dyfodol y Cymry fel pobl. Cyfrol ydyw am rym a gallu llenyddiaeth, yn farddoniaeth a rhyddiaith, i danio pobl a galluogi pobl i ddal eu tir yn wyneb pob math o fygythiad. Wrth chwilio am leoliadau ac astudio mapiau ochr yn ochr 'r englynion mae'r awdur yn diogelu'r mythau cenedlaetholgar, mae'n eu hailadrodd, ac yn eu cymhwyso ar gyfer heddiw, gan obeithio tanio'r ysbryd a'u hysbrydolodd unwaith eto. Llwyddodd Myrddin ap Dafydd i blethu ei wybodaeth am gerdd dafod, ei hoffter o fapiau a'i ysfa i blethu cliwiau ynghyd er mwyn ein hatgoffa bod gwlad ac iaith yn drysorau y mae'n werth aberthu er mwyn eu diogelu. Dyma gyfrol gynnes a heriol sydd yn bleser i'w bodio ac yn ddarllen rhwydd. John Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Mae hon yn gyfrol sy'n eich gwahodd eich temtio, yn wir i'w chodi a'i bodio. Daw'r demtasiwn hon nid oherwydd ei bod yn gyfrol fawr, hardd a drud yr olwg. Cyfrol fechan ydyw, ond mae ei diwyg, ei rhwymiad a hyd yn oed natur y papur yn ddeniadol. Cyfrol am ein barddoniaeth hynaf fel cenedl sydd yma, sef Canu Heledd a Chanu Llywarch Hen, ac y mae hynny hefyd yn ychwanegu at ei hapl. Mewn rhagair difyr a hynod ddarllenadwy mae Myrddin ap Dafydd yn nodi nad oes ganddo gymhwyster penodol i drafod y maes hwn heblaw am ei gariad at 'gerdd dafod, cariad at ddarllen mapiau a hoffter o wneud jig-sos, a dwi ddim yn amau nad yw cariad at genedl a phryder gwirioneddol am ei pharhad yn gymhwyster arall y gellid ei ychwanegu. Mae'r cymhwyster hwnnw'n amlwg iawn drwy'r gyfrol ar ei hyd. Mae'r rhagair yn crynhoi'r cymwysterau y mae Myrddin yn eu rhestru, oherwydd y mae'r awdur yn disgrifio'i hun yn chwilio am le o'r enw Rhodwydd Forlas y mae cyfeiriad ato yng Nghanu Llywarch Hen. Dilyna nant o'r enw Morlas i'r dwyrain o afon Ceiriog, gan sefyll yng nghanol y rhyd ar y nant honno, man lle y cred y bu Llywarch Hen yn sefyll arno, a'r fan lle lladdwyd Gwn ei fab wrth iddo amddiffyn y ffin. Mae'n fan emosiynol a dirdynnol, ac mae'r emosiwn hwnnw wedi'i gostrelu yng ngeiriau'r rhagair ac mae i'w deimlo drwy weddill y gyfrol. Profiad digon rhyfedd oedd darllen y gyfrol yma wrth deithio ar y trn o Aberystwyth tuag at Amwythig, a theithio drwy'r union fannau y cyfeirir atynt, mannau y brwydro mawr a'r gwarchod ffiniau. Ond prin iawn oedd y Gymraeg ar y trn y bore hwnnw; nid brwydr a ddaeth i ben yw hon, ac y mae Myrddin ap Dafydd yn gwreiddio bwriad y gyfrol yn yr ymdrech gyfoes i gadw'r ffin a diogelu dyfodol y Cymry fel pobl. Cyfrol ydyw am rym a gallu llenyddiaeth, yn farddoniaeth a rhyddiaith, i danio pobl a'u galluogi i ddal eu tir yn wyneb pob math o fygythiad. Wrth chwilio am leoliadau ac astudio mapiau ochr yn ochr 'r englynion mae'r awdur yn diogelu'r mythau cenedlaetholgar, mae'n eu hailadrodd, ac yn eu cymhwyso ar gyfer heddiw, gan obeithio tanio'r ysbryd a'u hysbrydolodd unwaith eto. Llwyddodd Myrddin ap Dafydd i glymu'i wybodaeth am gerdd dafod, ei hoffter o fapiau a'i ysfa i blethu cliwiau ynghyd er mwyn ein hatgoffa bod gwlad ac iaith yn drysorau y mae'n werth aberthu er mwyn eu diogelu. Dyma gyfrol gynnes a heriol sydd yn bleser i'w bodio ac yn ddarllen rhwydd. John Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |