|
|
|||
|
||||
OverviewA valuable guide for pupils studying the novel Y Stafell Ddirgel for their Welsh GCSE exams, comprising general information about the historical and religious background, a detailed analysis of themes and characters, language and style, together with useful exercises. 24 black-and-white photographs. First published December 2001. Full Product DetailsAuthor: Eleri DaviesPublisher: Gomer Press Imprint: Gomer Press ISBN: 9781843230618ISBN 10: 1843230615 Pages: 112 Publication Date: 01 February 2008 Audience: Primary & secondary/elementary & high school , Educational: Primary & Secondary Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Table of ContentsReviewsLle braf ydi Sesiwn Fawr Dolgellau, ond y llynedd, a'r wyl bellach yn denu'r miloedd, roedd y dorf anferthol fel pe bai ychydig bach yn fwy anystywallt nag arfer ac wrth i'r caniau bentyrru ar y sgwar a'r goryfed ddechrau mynd yn drech, digon hawdd y gellid dychmygu sut y gallai hwyl ddiniwed y werin arwain at y math o weithred dreisiol, aflednais sy'n digwydd ar ddechrau'r nofel hon, sef dowcio gwrach dybiedig yn Afon Wnion. Mae Y Stafell Ddirgel yn adrodd pennod gythryblus yn hanes Meirionnydd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg pryd yr erlidiwyd aelodau mudiad y Crynwyr mewn ffordd mor atgas a didostur gan yr awdurdodau nes, yn y pen draw, i'r rhan fwyaf ohonynt orfod ymfudo i'r Unol Daleithiau gan adael bwlch cymdeithasol enfawr ar eu holau yn eu sir enedigol. Yng ngeiriau yr hanesydd, R.T.Jenkins, mor dda i Gymru fuasai eu cyfraniad hwy i'w bywyd hi, pe cawsent gyfle i'w roi. Yn Y Stafell Ddirgel llwydda Marion Eames i chwythu anadl i esgyrn sychion yr hanes yma gan greu cymeriadau cig a gwaed credadwy a naratif gafaelgar, cynhaliol. Mae'r gwaith ymchwil hanesyddol drylwyr a'r adnabyddiaeth o fro Dolgellau a chariad yr awdur tuag ati, yn amlwg, ond eto heb fod yn rhy ymwthiol, ac mae'r arddull yn aeddfed braf ac yn hollol ddiymdrech. Rhaid llongyfarch S4C hefyd am weld potensial y gyfrol i greu addasiad clodwiw, poblogaidd i'r sgrin fach yn ddiweddar. Byddai'n wych o beth pe bai ymddangosiad yr argraffiad smart newydd gan Gomer i gyd-ddigwydd a'r gyfres deledu yn esgor ar gynnydd yng ngwerthiant arferol y nofel. Fodd bynnag, ddeng mlynedd ar hugain ers ei gyhoeddi am y tro cyntaf, er y gellir nodi llawer iawn o rinweddau amlwg wrth ei ailddarllen, ar sawl gwedd mae yna le i amau mai cyfyng yw apel uniongyrchol y llyfr hwn erbyn hyn, ac nad yw'n glasur bytholwyrdd y gellir ei ddarllen droeon gan ddod o hyd i haenau newydd o ystyr ac ysbrydoliaeth. Eto, dichon ei fod yn destun gosod amlbwrpas defnyddiol yn yr ysgolion uwchradd ac mewn dosbarthiadau dysgwyr. Er gwaethaf yr amheuaeth a fynegais, rhaid pwysleisio bod y cynnwys, fel sy'n wir am holl nofelau Marion Eames, yn ddiffuant ac yn taro deuddeg drwyddo draw, ac o edrych yn ol mae'n drueni nad yw amgylchiadau llenora yn y Gymraeg wedi caniatau i'r awdures fedrus hon fod yn fwy cynhyrchiol. Martin Davis Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |