|
|
|||
|
||||
OverviewThe remarkable story of Barbara Warlow Davies who was evacuated at the age of four from Liverpool to Talgareg in Ceredigion, during the Second World War. Full Product DetailsAuthor: Barbara Warlow DaviesPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9781847716743ISBN 10: 1847716741 Pages: 128 Publication Date: 22 May 2013 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsReviewsBraint o'r mwyaf oedd cael gwrando ar dair menyw go arbennig yn rhannu eu profiadau yng ngwyl y Fedwen Lyfrau yn Felin-fach eleni, ac un ohonynt oedd Barbara Davies, efaciw a ymfudodd o Lerpwl i Dalgarreg yng nghefn gwlad Sir Aberteifi yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'i chlywed yn siarad roedd yn rhaid i mi ddarllen ei llyfr gan mor fyrlymus yr adroddai hi ei hanes. Yn wahanol i'r mwyafrif o efaciws, dod o Lerpwl am benwythnos yn unig i weld ei brawd Bill a oedd yn efaciw yn Nhalgarreg a wnaeth Barbara. Pan ddaeth yn bryd iddi hi a'i thad ddychwelyd i'r ddinas fe benderfynodd Barbara, a hithau yn ddim o beth, ei bod hi am aros, ac ar fferm Pantglas yn Nhalgarreg y treuliodd ei phlentyndod. Fe fyddai bywyd wedi bod yn dra gwahanol yn Lerpwl dinas a ddioddefodd yn enbyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyn symud oddi yno bu bron iawn i Barbara gael ei lladd, ac mae'r ffordd mae hi'n adrodd hanes y bomiau a'u heffaith yn ddirdynnol. Dysgwn hefyd fod mam Barbara wedi marwn ifanc, felly roedd plentyndod y ferch fach yn un anodd tu hwnt. Bu hi'n ffodus iawn o gael cartref yn Nhalgarreg, ac fe ddaeth Wncwl ac Anti, fel y'u galwai, yn rhieni iddi. Magwyd hi gyda'r gofal mwyaf, ac mae'n amlwg fod gan Barbara feddwl mawr iawn ohonynt. Nid profiadau Barbara yn unig a geir yn y gyfrol hon rhy i ni hefyd ddarlun manwl o gymuned Talgarreg yn ystod y rhyfel ac wedi hynny. Ceir gwybodaeth hynod ddiddorol am y gymdogaeth ac am arferion yr oes, a defnyddir geirfa werthfawr, er enghraifft, wrth sn am dymor hau hadau. Dyma lyfr hyfryd iawn yn llawn atgofion y lleddf weithiau, yn anochel, ond gan amlaf y llon a geir wrth i efaciw fach ifanc o Lerpwl gael croeso arbennig yn Nhalgarreg. Daeth yn Gymraes fach dda ymhen dim o dro, a heddiw diolchwn am hynny wrth iddi rannu clytwaith o atgofion mewn iaith goeth a chywrain. Mae'n stori ryfeddol ac yn werth ei darllen. Sarah Down-Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Braint o'r mwyaf oedd cael gwrando ar dair menyw go arbennig yn rhannu eu profiadau yng ngwyl y Fedwen Lyfrau yn Felin-fach eleni, ac un ohonynt oedd Barbara Davies, efaciwi a ymfudodd o Lerpwl i Dalgarreg yng nghefn gwlad Sir Aberteifi yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'i chlywed yn siarad roedd yn rhaid i mi ddarllen ei llyfr gan mor fyrlymus yr adroddai hi ei hanes. Yn wahanol i'r mwyafrif o efaciwis, dod o Lerpwl am benwythnos yn unig i weld ei brawd Bill a oedd yn efaciwi yn Nhalgarreg a wnaeth Barbara. Pan ddaeth yn bryd iddi hi a'i thad ddychwelyd i'r ddinas fe benderfynodd Barbara, a hithau yn ddim o beth, ei bod hi am aros, ac ar fferm Pantglas yn Nhalgarreg y treuliodd ei phlentyndod. Fe fyddai bywyd wedi bod yn dra gwahanol yn Lerpwl -- dinas a ddioddefodd yn enbyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyn symud oddi yno bu bron iawn i Barbara gael ei lladd, ac mae'r ffordd mae hi'n adrodd hanes y bomiau a'u heffaith yn ddirdynnol. Dysgwn hefyd fod mam Barbara wedi marw'n ifanc, felly roedd plentyndod y ferch fach yn un anodd tu hwnt. Bu hi'n ffodus iawn o gael cartref yn Nhalgarreg, ac fe ddaeth Wncwl ac Anti, fel y'u galwai, yn rhieni iddi. Magwyd hi gyda'r gofal mwyaf, ac mae'n amlwg fod gan Barbara feddwl mawr iawn ohonynt. Nid profiadau Barbara yn unig a geir yn y gyfrol hon -- rhy i ni hefyd ddarlun manwl o gymuned Talgarreg yn ystod y rhyfel ac wedi hynny. Ceir gwybodaeth hynod ddiddorol am y gymdogaeth ac am arferion yr oes, a defnyddir geirfa werthfawr, er enghraifft, wrth son am dymor hau hadau. Dyma lyfr hyfryd iawn yn llawn atgofion -- y lleddf weithiau, yn anochel, ond gan amlaf y llon a geir wrth i efaciwi fach ifanc o Lerpwl gael croeso arbennig yn Nhalgarreg. Daeth yn Gymraes fach dda ymhen dim o dro, a heddiw diolchwn am hynny wrth iddi rannu clytwaith o atgofion mewn iaith goeth a chywrain. Mae'n stori ryfeddol ac yn werth ei darllen. Sarah Down-Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Braint o'r mwyaf oedd cael gwrando ar dair menyw go arbennig yn rhannu eu profiadau yng ngwyl y Fedwen Lyfrau yn Felin-fach eleni, ac un ohonynt oedd Barbara Davies, efaciwi a ymfudodd o Lerpwl i Dalgarreg yng nghefn gwlad Sir Aberteifi yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'i chlywed yn siarad roedd yn rhaid i mi ddarllen ei llyfr gan mor fyrlymus yr adroddai hi ei hanes. Yn wahanol i'r mwyafrif o efaciwis, dod o Lerpwl am benwythnos yn unig i weld ei brawd Bill a oedd yn efaciwi yn Nhalgarreg a wnaeth Barbara. Pan ddaeth yn bryd iddi hi a'i thad ddychwelyd i'r ddinas fe benderfynodd Barbara, a hithau yn ddim o beth, ei bod hi am aros ac ar fferm Pantglas yn Nhalgarreg y treuliodd ei phlentyndod. Fe fyddai bywyd wedi bod yn dra gwahanol yn Lerpwl -- dinas a ddioddefodd yn enbyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cyn symud oddi yno bu bron iawn i Barbara gael ei lladd, ac mae'r ffordd mae hi'n adrodd hanes y bomiau a'u heffaith yn ddirdynnol. Dysgwn hefyd fod mam Barbara wedi marw'n ifanc, felly roedd plentyndod y ferch fach yn un anodd tu hwnt. Bu hi'n ffodus iawn o gael cartref yn Nhalgarreg, ac fe ddaeth Wncwl ac Anti, fel y'u galwai, yn rhieni iddi. Magwyd hi gyda'r gofal mwyaf, ac mae'n amlwg fod gan Barbara feddwl mawr iawn ohonynt. Nid profiadau Barbara yn unig a geir yn y gyfrol hon - rhy i ni hefyd ddarlun manwl o gymuned Talgarreg yn ystod y rhyfel ac wedi hynny. Ceir gwybodaeth hynod ddiddorol am y gymdogaeth ac am arferion yr oes a defnyddir geirfa werthfawr, er enghraifft, wrth son am dymor hau hadau. Dyma lyfr hyfryd iawn yn llawn atgofion -- y lleddf weithiau, yn anochel, ond gan amlaf y llon a geir wrth i efaciwi fach ifanc o Lerpwl gael croeso arbennig yn Nhalgarreg. Daeth yn Gymraes fach dda ymhen dim o dro, a heddiw diolchwn am hynny wrth iddi rannu clytwaith o atgofion mewn iaith goeth a chywrain. Mae'n stori ryfeddol ac yn werth ei darllen. Sarah Down-Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatad Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |