Yn ei Chanol Hi

Author:   Tweli Griffiths
Publisher:   Y Lolfa
ISBN:  

9781784611583


Pages:   192
Publication Date:   03 November 2015
Format:   Paperback
Availability:   Out of stock   Availability explained
The supplier is temporarily out of stock of this item. It will be ordered for you on backorder and shipped when it becomes available.

Our Price $25.85 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Yn ei Chanol Hi


Add your own review!

Overview

A highly different and exciting autobiography, with almost 50 photographs that follow the footsteps of one of Wales' most experienced journalists as he travels around the world looking for a story.

Full Product Details

Author:   Tweli Griffiths
Publisher:   Y Lolfa
Imprint:   Y Lolfa
ISBN:  

9781784611583


ISBN 10:   1784611581
Pages:   192
Publication Date:   03 November 2015
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   Out of stock   Availability explained
The supplier is temporarily out of stock of this item. It will be ordered for you on backorder and shipped when it becomes available.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Rhaid cytuno barn un o'n newyddiadurwyr uchaf ei barch, sef Gwilym Owen, am gynnwys y gyfrol ddarllenadwy a dadlennol hon: 'Dyma berl o gasgliad o atgofion gan yr hac annibynnol o Bencader a lwyddodd i dorri ei gwys bersonol a thrwy hynny wthio ffiniau ac ehangu gorwelion mewnblyg newyddiaduraeth deledu yn yr iaith Gymraeg.' Mae'r awdur yn dechrau ar ei stori drwy esbonio tarddiad gwreiddiol ac arwyddocd ei enw bedydd anghyffredin, a chawn ychydig o'i hanes yn blentyn ac yn llanc ifanc ym Mhencader. Yna'n mae'n ymhelaethu ar ei ddyddiau coleg yn Aberystwyth lle bu'n astudio Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol wrth draed rhai o gewri'r pynciau hyn. Treuliodd bron i ddwy flynedd lawn yn is-lywydd ac yna'n llywydd Undeb y Myfyrwyr o fewn y coleg. Cawn gipolwg diddorol ar fywyd myfyriwr Cymraeg yn Aberystwyth yn y 1970au cyffrous, llawn antur a gobaith ar gyfer y dyfodol. Arbennig o ddiddorol yw darllen yr hanes am berswadio Dai Francis i sefyll ar gyfer swydd anrhydeddus Canghellor Prifysgol Cymru yn erbyn Charles, Tywysog Cymru, ar ddiwedd y 70au. Daeth dyddiau prifysgol i ben yn reit sydyn i Tweli yng ngwanwyn 1977 pan benodwyd ef i'w swydd gyntaf ym myd y cyfryngau fel gohebydd yn y gorllewin ar raglen newyddion teledu Y Dydd. Drwy gydol gweddill y gyfrol, cawn ddarllen cyfres o benodau am y profiadau amrywiol a gafodd Tweli ym myd y cyfryngau dros gyfnod o dri deg wyth o flynyddoedd, a'r teithiau llawn antur a gafodd i bedwar ban y byd. Mentrodd i rai o'r gwledydd peryclaf er mwyn dod stori i'n sgrin, gan gynnwys Cwrdistan, Irac a Gogledd Iwerddon. Oherwydd maint a safon uchel ei gyfraniad yn y maes hwn dros gyfnod mor hir dyfarnwyd iddo wobr BAFTA Cymru yn 2005, ynghyd nifer o wobrwyon eraill o fri. Bu ym merw straeon newyddion byd-eang eraill, fel chwalu wal Berlin yn 1989, a newyn mawr Ethiopia. Cofiwn yn arbennig amdano'n cyf-weld y diweddar Gyrnol Gaddafi o Libya. Eithriadol o emosiynol yw'r profiad o ddarllen hanes ingol bachgen bach amddifad o'r enw 'Joseph' o wlad Ethiopia, un a ffurfiodd gwlwm agos iawn Tweli Griffiths gan beri iddo yntau feithrin teimladau cryfion am y wlad a dychwelyd yno fyth nag unwaith dros y blynyddoedd. Ac fe ddilynwn stori deimladwy ei ymdrechion i ddod o hyd i 'Joseff' ugain mlynedd wedir newyn yn y wlad honno. Ac yn yr ysgrif olaf oll, sydd yn dra gwahanol ei naws i'r gweddill, ceir sylwadau bachog ar hanes yr iaith Gymraeg yn y cyfnod modern, ac yn arbennig am gyfraniad gwerthfawr llywodraethau Ceidwadol 197997 a swyddogaeth ganolog gwleidyddion fel Nicholas Edwards a'r diweddar Syr Wyn Roberts. Rhoddir sylw arbennig i'r frwydr galed i sefydlu S4C ym mis Tachwedd 1982. O newyddion mawr y dydd i faterion llosg yng Nghymru a thu hwnt, gwelwn rannur uchafbwyntiau ar isafbwyntiau ar deithiau Tweli Griffiths. Gyda gwledd o brofiad ar Y Dydd, Y Byd ar Bedwar, a llu o raglenni dogfen eraill hefyd, go brin ywr Cymry Cymraeg gafodd fywyd mor gyffrous ag ef, a rhwng y cloriau, fe ddown i nabod y dyn yn ogystal wrth iddo rannu ei siwrne bersonol hefyd. Cawn glywed am ei ddiddordeb mawr ers yn blentyn mewn meysydd fel consuriaeth! Mae'r llyfr hwn yn gofnod disglair ac awdurdodol. Mae'r mynegiant yn glir a chymen a sylwadau'r gwrthrych ar y byd o'i amgylch yn graff a threiddgar. Un arall o gryfderau'r gyfrol yw'r wledd o ffotograffau lliw o bob cyfnod yng ngyrfa nodedig Tweli Griffiths, ac sydd yn gaffaeliad mawr i werthfawrogi cynnwys y testun yn llawn. J. Graham Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru


Rhaid cytuno barn un o'n newyddiadurwyr uchaf ei barch, sef Gwilym Owen, am gynnwys y gyfrol ddarllenadwy a dadlennol hon: 'Dyma berl o gasgliad o atgofion gan yr hac annibynnol o Bencader a lwyddodd i dorri ei gwys bersonol a thrwy hynny wthio ffiniau ac ehangu gorwelion mewnblyg newyddiaduraeth deledu yn yr iaith Gymraeg.' Mae'r awdur yn dechrau ar ei stori drwy esbonio tarddiad gwreiddiol ac arwyddocd ei enw bedydd anghyffredin, a chawn ychydig o'i hanes yn blentyn ac yn llanc ifanc ym Mhencader. Yna mae'n ymhelaethu ar ei ddyddiau coleg yn Aberystwyth lle bu'n astudio Gwleidyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol wrth draed rhai o gewri'r pynciau hyn. Treuliodd bron i ddwy flynedd lawn yn is-lywydd ac yna'n llywydd Undeb y Myfyrwyr yn y coleg. Cawn gipolwg diddorol ar fywyd myfyriwr Cymraeg yn Aberystwyth yn y 1970au cyffrous, llawn antur a gobaith ar gyfer y dyfodol. Arbennig o ddiddorol yw darllen yr hanes am berswadio Dai Francis i sefyll am swydd anrhydeddus Canghellor Prifysgol Cymru yn erbyn Charles, Tywysog Cymru, ar ddiwedd y 70au. Daeth dyddiau prifysgol i ben yn reit sydyn i Tweli yng ngwanwyn 1977 pan benodwyd ef i'w swydd gyntaf ym myd y cyfryngau fel gohebydd yn y gorllewin ar raglen newyddion teledu Y Dydd. Drwy gydol gweddill y gyfrol, cawn ddarllen cyfres o benodau am y profiadau amrywiol a gafodd Tweli ym myd y cyfryngau dros gyfnod o dri deg wyth o flynyddoedd, a'r teithiau llawn antur a gafodd i bedwar ban y byd. Mentrodd i rai o'r gwledydd peryclaf er mwyn dod stori i'n sgrin, gan gynnwys Cwrdistan, Irac a Gogledd Iwerddon. Oherwydd maint a safon uchel ei gyfraniad yn y maes hwn dros gyfnod mor hir, dyfarnwyd iddo wobr BAFTA Cymru yn 2005, ynghyd nifer o wobrwyon eraill. Bu ym merw straeon newyddion byd-eang eraill, fel chwalu Wal Berlin yn 1989, a newyn mawr Ethiopia. Cofiwn yn arbennig amdano'n cyfweld y diweddar Gyrnol Gaddafi o Libya. Eithriadol o emosiynol yw'r profiad o ddarllen hanes ingol bachgen bach amddifad o'r enw Joseff o wlad Ethiopia, un a ffurfiodd gwlwm agos iawn Tweli Griffiths gan beri iddo yntau feithrin teimladau cryfion am y wlad a dychwelyd yno fwy nag unwaith dros y blynyddoedd. Ac fe ddilynwn stori deimladwy ei ymdrechion i ddod o hyd i Joseff ugain mlynedd wedir newyn yn y wlad honno. Ac yn yr ysgrif olaf oll, sydd yn dra gwahanol ei naws i'r gweddill, ceir sylwadau bachog am hanes yr iaith Gymraeg yn y cyfnod modern, ac yn arbennig am gyfraniad gwerthfawr llywodraethau Ceidwadol 197997 a swyddogaeth ganolog gwleidyddion fel Nicholas Edwards a'r diweddar Syr Wyn Roberts. Rhoddir sylw arbennig i'r frwydr galed i sefydlu S4C ym mis Tachwedd 1982. O newyddion mawr y dydd i faterion llosg yng Nghymru a thu hwnt, cawn rannur uchafbwyntiau ar isafbwyntiau ar deithiau Tweli Griffiths. O ystyried ei holl brofiad ar Y Dydd, Y Byd ar Bedwar, a llu o raglenni dogfen eraill hefyd, go brin ywr Cymry Cymraeg a gafodd fywyd mor gyffrous ag ef, a rhwng y cloriau, fe ddown i nabod y dyn yn ogystal wrth iddo rannu ei siwrne bersonol hefyd. Mae'r llyfr hwn yn gofnod disglair ac awdurdodol. Mae'r mynegiant yn glir a chymen a sylwadau'r gwrthrych ar y byd o'i amgylch yn graff a threiddgar. Un arall o gryfderau'r gyfrol yw'r wledd o ffotograffau lliw o bob cyfnod yng ngyrfa nodedig Tweli Griffiths sydd yn gymorth i werthfawrogi cynnwys y testun yn llawn. J. Graham Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

Aorrng

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List