|
|
|||
|
||||
OverviewA beautiful volume to treasure presenting in lively style the story of the medieval bard Dafydd ap Gwilym, his life and times, with striking colour illustrations by Margaret Jones; for readers of all ages. Tir na n-Og Award winner 2004. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Gwyn Thomas , Margaret JonesPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9780862437053ISBN 10: 0862437059 Pages: 108 Publication Date: 02 December 2003 Recommended Age: 9 years Audience: Primary & secondary/elementary & high school , Educational: Primary & Secondary Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsMae'r llyfr hwn yn hyfrydbeth, mor syml a hynny, a dim syndod ei fod wedi ennill gwobr Tir Na n-Og yn 2004. Mae testun yr Athro Gwyn Thomas yn llifo'n rhwydd ac yn llawn ffraethineb, ac mae lluniau Margaret Jones mor fywiog a lliwgar ag y byddai unrhyw un sydd wedi darllen cyfrol debyg iawn y Lolfa am Owain Glyndwr yn ei ddisgwyl. Mae'r cyfuniad yn bur swynol, a dylai pob athro neu athrawes y Gymraeg fynnu set o hanner cant o gopiau ar gyfer yr ysgol yn unionsyth. Bydd sawl plentyn ail-iaith yn cael ei ddiddanu a'i ddenu at bleserau'r iaith trwy'r gyfrol hon, a sawl plentyn iaith gyntaf yn cael cip ar fyd lledrithiol y cynganeddwr, heb son am ddysgu peth o hanes difyr dros ben ei wlad ei hun. Hanes Dafydd ap Gwilym, bardd mwyaf ein cenedl yn ol rhai, a gawn rhwng cloriau'r llyfr hwn, a hynny mewn dull sy'n osgoi patrwm traddodiadol sych y llyfr hanes ac yn agosach o lawer at y 'bucheddau seintiau'. Fel mae Gwyn Thomas ei hun yn ei ddweud, 'ychydig ffeithiau, os ydym ni'n lwcus, a llawer o ddychmygu ffyrnig'. Wrth gwrs, mae gwybodaeth fanwl Gwyn Thomas am Ddafydd ap Gwilym yn cynnig sail gadarn iawn i'r stori, ond mae'r ymwadiad yn y cyflwyniad yn rhoi rhwydd hynt i'r Athro ymdrin a'r hanes mewn ffordd gellweirus a chyffrous sydd, mae rhywun yn teimlo, yn agos iawn i'r hyn y byddai Dafydd ap Gwilym wedi'i lunio ei hun, pe bai'n fyw ac yn iach ac yn ysgrifennu llyfr am yr Athro Gwyn Thomas! Mae bywyd y bardd yn cynnwys popeth y mae ar awdur ei eisiau ar gyfer stori dda, gyda'i enethod, ei elynion, ei ddirmyg tuag at y Saeson, ei hunanddychanu a'i gariad dwfn at fyd natur, ac mae Gwyn Thomas wedi llwyddo'n wych i gael y gorau allan o'r defnydd. Mae hyn yn arbennig o wir wrth gyrraedd diwedd y llyfr, lle mae o wedi plethu ffeithiau a dychymyg i greu diweddglo trawiadol iawn, gydag ambell dro annisgwyl a phwerus ar y ffordd. Er nad ydy hi'n gyfres swyddogol, fel petai, mae yna ddau lyfr arall tebyg ar gael, un am Ddewi Sant ac un am Chwedlau'r Gwledydd Celtaidd. Ffwrdd a mi i'w prynu yr eiliad i mi orffen teipio'r adolygiad hwn; rwy'n edrych ymlaen yn awchus at ddarllen rhagor o lyfrau yn yr un arddull a da clywed bod 'na rai ar y gweill. Mae fersiwn Saesneg o'r gyfrol hefyd ar gael ar gyfer y rhai di-Gymraeg. -- Aran Jones @ www.gwales.com Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |