|
|
|||
|
||||
OverviewA volume tracing the story of the fight described by Gwynfor Evans as one of the most shining chapters in the recent history of Wales. It is the dramatic and heroic story of the successful campaign of the Llangyndeyrn and Gwendraeth Fach communities against a powerful corporation with legal backing who wished to explore and flood their valley. 35 black-and-white photographs. Full Product DetailsAuthor: W. M. Rees , Hywel G. ReesPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9781847717375ISBN 10: 1847717373 Pages: 170 Publication Date: 11 October 2013 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsReviewsRwyn ysgrifenn'r adolygiad hwn wrth i'r gn 'Dwr', Huw Jones, atseinio yn fy nghlustiau. Cyfrol yw Sefyll yn y Bwlch sy'n adrodd hanes safiad pentrefwyr Llangyndeyrn yn erbyn corfforaeth Abertawe rhag archwilio'u tiroedd a boddi eu cwm. Yr awdur yw'r diweddar W. M. Rees, ysgrifennydd y Pwyllgor Amddiffyn ac fe wnaeth ei fab, Hywel Gealey Rees, waith rhagorol yn golygu a diweddaru peth ar yr hanes. Gwr o Sir Drefaldwyn ydw i a bu'r sn am foddi cymoedd yn rhan o'm magwraeth (daw peth o'r hanes hwnnw i mewn i'r gyfrol hon). Tryweryn yw'r pwnc gwleidyddol arall y cofiaf lawer o drafod arno yn ystod fy mhlentyndod a'm harddegau cynnar. Fe ddechreuodd y frwydr lwyddiannus i achub Llangyndeyrn wrth i'r frwydr dros Dryweryn gael ei cholli. Adroddir hanes y frwydr dros Llangyndeyrn yn angerddol eglur yn y llyfr hwn. Casglwn yn fuan iawn mai W. M. Rees ei hun yw'r union wr i fod yn ysgrifennydd y Pwyllgor Amddiffyn. Yr oedd yn weinidog yn un o gapeli'r ardal ond fe fu hefyd yn lwr, ac yn heddychwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Rhoddodd hyn yr union gefndir oedd ei angen arno i herio unrhyw fwli. Daw'n amlwg nad oedd yn un i ildio i neb. Mae'n un o arwyr tawel yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Mae'r llyfr hefyd yn cynnig llawer mwy nag adroddiad cyflawn dros bum mlynedd hir o ymgyrchu. Rhaid dweud ei fod yn llawlyfr cwbl hanfodol i'r sawl sydd am drwytho'i hun yn y dull di-drais o weithredu a herio awdurdod yn llwyddiannus. Y peth mawr ar y dechrau oedd sicrhau undod ymysg y bobl leol. Rhaid oedd disgyblu pawb i gydweithio 'i gilydd. Yn dilyn hynny, daw'r gwaith o lythyru, protestio a rhwystro'r ymchwilwyr rhag dod i'r tir. Llwyddwyd yn effeithiol iawn hefyd i fagu perthynas 'r wasg a'r cyfryngau ac ymestyn y gefnogaeth y tu allan i'r fro a oedd yn cael ei bygwth. Daeth cefnogaeth arwyddocaol iawn o ardal Abertawe ei hun. Eto, fe gadwodd y bobl leol eu gafael ar yr ymgyrchu o'r dechrau i'r diwedd. Bu Rees yn ofalus iawn yn rhestru enwau'r bobl hynny a chwaraeodd eu rhan yn yr ymgyrch. Synhwyrwn fod pob enw yn annwyl iawn ganddo a bod cymdogaeth gyfan wedi chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch dyngedfennol hon. Pan ddaeth buddugoliaeth, bu hynny'n destun llawenydd drwy Gymru gyfan. Heddiw mae rhai yn holi sut y llwyddwyd yn Llangyndeyrn ar l methu mor druenus yng Nghapel Celyn. Nid yw'r llyfr hwn yn cynnig ateb i'r cwestiwn hwnnw. Ond gellir dyfalu bod Llangyndeyrn yn ffrwythlonach ardal na'r fro ym Meirionnydd a mwy o bobl yn byw yno. Siawns na ddylid cadw mewn cof hefyd mai tref Gymreig yn hytrach na dinas Seisnig oedd y gelyn y tro hwn. Hefyd, fe lwyddwyd i gynnig ardal arall i gyflenwi dwr i Abertawe heb i hynny effeithio ar fywydau neb. A thybed na roddodd esiampl pobl Tryweryn nerth i bobl Llangyndeyrn ymgodymu 'u brwydr hwy. Heb os, dyma un o'r llyfrau gorau i weld golau dydd yn 2013. Fe fydd yn ysbrydoliaeth i bawb ohonom sy'n credu fod dyfodol Cymru yn werth brwydro drosto. Dafydd Morgan Lewis Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |