|
|
|||
|
||||
OverviewFull of humour and romance, popular novelist Marlyn Samuel's new novel is a real page turner. When two families come together for a wedding in romantic Italy, little do they realise there is already a bond which ties them together! -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Marlyn SamuelPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9781800990524ISBN 10: 1800990529 Pages: 182 Publication Date: 09 September 2021 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsPan mae ei mab ’fenga yn penderfynu priodi yn yr Eidal, mae Carys yn edrych ymlaen i fwynhau Sorrento, ac yn goron i’r cwbwl, priodas Gethin a Rebeca. Yn gwmni mae ei mab hynaf Sion a’i deulu, heb anghofio ei mam Thelma, gwaith caled a dweud y lleiaf! Ond dim ond dechrau mae gofidiau Carys. Mae pawb yn cael sioc pan mae Gareth, tad Rebeca, yn landio – ond neb yn fwy na Carys! Canmoliaeth i Cicio’r Bwced gan Marlyn Samuel: “Ro’n i’n crio un munud a chwerthin y munud nesa.” – Linda Brown. -- Cyhoeddwr: Y LolfaReviewsOnid yw hi'n deimlad braf cael llyfr da i droi ato cyn noswylio? Yn sicr, teimlad felly sydd i nofel ddiweddaraf Marlyn Samuel - ei phumed nofel. Mae Gethin, mab ieuengaf Carys, wedi penderfynu priodi Rebeca yn Sorrento ac felly does dim dewis gan y ddau deulu ond teithio yr holl ffordd i'r Eidal. Mae achlysur fel priodas yn sicr o greu rywfaint o densiwn ac mae priodas dramor, wrth gwrs, yn cynyddu'r tensiynau. Dyma blot perffaith, felly, i arddangos y natur ddynol ar ei gorau. Heb ddatgelu gormod, mae Carys yn fam i Sion a Gethin ond nid yr un tad sydd gan y ddau - ganwyd Sion wedi ffling ar wyliau tramor. Medwyn yw tad Gethin ond mae Carys ac yntau wedi gwahanu ac mae e bellach yn bartner i Llinos. Mae Sion yn bartner i Greta sy'n figan ac mae ganddynt un ferch bump oed - merch go benderfynol. Felly, wedi teithio i Sorrento i fod yno ar gyfer achlysur arbennig ei mab mae Carys, Sion a Greta a'u merch Sisial, ynghyd a Medwyn a Llinos. Mae yna un arall, Thelma Owen, sef mam Carys. Dyw Thelma ddim y cymeriad hawsaf yn y byd - dyw hi ddim yn hoff o deithio, mae'n go ffyslyd am ei bwyd ac mae'n dueddol o roi ei thraed ynddi a mynd yn sownd mewn toiledau. Oes, mae yna ddigon o wahaniaethau rhwng pawb i greu pob math o densiynau a sefyllfaoedd doniol ar y naw. Ar ben hyn i gyd, wrth gwrs, mae teulu Rebeca. Mae Meira a thad Rebeca hefyd wedi gwahanu, a dyw Meira ddim yn rhy hapus bod ei merch yn priodi oddi cartref. Mae Meira yn deyrn go iawn ac wedi arfer cadw trefn a chael ei ffordd ei hun wrth wneud hynny. Ond fel y gallwch ddychmygu, dyw popeth ddim yn mynd yn ol y disgwyl ac mae cryn helbulon yn codi - ac un gwestai annisgwyl yn ymddangos - yn ystod y pum diwrnod. Mewn nofel ysgafn fel hon mae rhywun yn disgwyl yr anghredadwy, ond mae'r awdur wedi llwyddo'n rhyfeddol i greu sefyllfaoedd na ellid bod wedi eu rhagweld. Yn sicr, mae yna lawer iawn o bethau yn digwydd yn ystod y pum diwrnod ond eto mae'r awdur wedi llwyddo i gynnal diddordeb y darllenydd, ac y mae rhywun yn awchu i gael gwybod be sy'n digwydd nesaf. Mae Marlyn Samuel yn feistr ar greu deialog naturiol, a sefyllfaoedd yr ydym i gyd yn gallu uniaethu a nhw. Ry'n ni i gyd yn adnabod rhywun sy'n camgymryd person am berson arall yn barhaus ac o bosib wedi gwneud hynny ein hunain, mae 'na rywun ym mhob criw sydd am fod yn geffyl blaen ac mae 'na wastad snob a rhywun sy'n gwybod yn well - dyw'r criw yma ddim gwahanol. Mae yma ambell sioc a siom, y melys a'r chwerw, ond dyma nofel i'w mwynhau. Mae'n llawn hiwmor ac mi allai fod yn ffilm - olynydd teilwng i Four Weddings and a Funeral, efallai? Edrychwn ymlaen at nofel nesaf yr awdures o Fon. -- Sara Down-Roberts @ www.gwales.com Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |