Philip Jones Griffiths - Ei Fywyd a'i Luniau

Author:   Ioan Roberts
Publisher:   Y Lolfa
ISBN:  

9781784614171


Pages:   156
Publication Date:   14 March 2018
Format:   Hardback
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $51.72 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Philip Jones Griffiths - Ei Fywyd a'i Luniau


Add your own review!

Overview

A biography of the world-renowned photographer from Rhuddlan, Philip Jones Griffiths by journalist Ioan Roberts of Pwllheli. Philip came to the world's attention through his painful images of the Vietnam war, and is acknowledged as one of the best journalistic photographers in the world. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Full Product Details

Author:   Ioan Roberts
Publisher:   Y Lolfa
Imprint:   Y Lolfa
ISBN:  

9781784614171


ISBN 10:   1784614173
Pages:   156
Publication Date:   14 March 2018
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Hardback
Publisher's Status:   Active
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Roedd Philip Jones Griffiths wedi dweud fwy nag unwaith nad ffotograffydd rhyfel oedd o. Ac roedd yn iawn. Roedd yn llawer mwy na hynny. Mae ei luniaun dal yr holl densiynau syn gallu arwain at ryfel, ar tristwch ar cymhlethdod syn dilyn. Pobl sydd yn y ffotograffau, nid arfau; gwrthdaro dwfn, nid ymladd arwynebol. Dim ond ffocws oedd rhyfeloedd. Pan dynnodd Philip Jones Griffiths lun o danc, roedd yna gyd-destun bachgen yn Grenada yn chwarae pl-droed yn union o dan faril anferth y gwn. Pan ddangosodd o lond cwch o filwyr Americanaidd yn glanio ar draeth, roedd yna dair merch leol yn torheulo ym mlaen y llun. Sawl tro, mae yna un wyneb clir ynghanol tyrfa neu goedwig o blanhigion; mae tai a phobl werinol y Dwyrain yng nghysgod sloganau llachar cyfalafol y byd gorllewinol; yng Ngogledd Iwerddon, mae milwyr bygythiol ochr yn ochr pobl a phlant syn byw eu bywydau bob dydd. Yn Rhuddlan y dechreuodd y cyfan. Fwy nag unwaith mi soniodd am y pentre oedd wedi ei ddal mewn tanchwa ddiwylliannol a chymdeithas Gymraeg ei blentyndod yn cael ei boddi gan lif o bobl o lannau Mersi. Dynar math o wrthdaro oedd yn sylfaen iw holl waith wedyn. Rhyfel diwylliannol, economaidd a moesol syn rhoi ffurf iw waith. Ymhlith y detholiad o luniau yn y gyfrol yma, mae rhai or enghreifftiau enwoca: wyneb mam yn edrych i fywr lens a wynebau dilygaid ei dwy ferch o boptu iddi; gwraig arall ai hwyneb wedi ei losgin ulw gan napalm ochr yn ochr wyneb perffaith y ferch amddifad yr oedd wedii mabwysiadu. Canlyniadau Rhyfel Fietnam oedd y rheiny, wrth gwrs, y rhyfel a roddodd gyfeiriad clir i yrfar cyn gyw-fferyllydd a ddaeth yn Llywydd ar Magnum, asiantaeth ffotograffiaeth enwocar byd, ac a helpodd newid agwedd ei genhedlaeth at ryfel. Maer gyfrol deyrnged yman gyflwyniad da iawn ir dyn ai waith ac, yn addas, y rhannau mwya gwreiddiol ydir sgyrsiau efo pobl oedd yn nabod y Philip ifanc ac syn gosod y crwydrwr ar anturiwr yn ei gymdogaeth. Mae yna luniau da wediu dethol a dyfyniadau a sylwadau gan Philip Jones Griffiths ai edmygwyr yn rhoi dwyster ir dweud. Maer sgrifennun glir ac effeithiol mae Ioan Roberts yn gallu gwneud i fanylyn fynegi llawer ac yn amseru pryd i bwysor botwm. Hunangofiant oedd y gobaith gwreiddiol, a fyddai neb yn gallu crynhoi ei fywyd fel Philip Jones Griffith ei hun, efoi graffter ai ffraethineb. Camp a chymwynas y gyfrol yma fydd gyrru pobl at luniau a sylwebethau pwerus y bachgen o Sir y Fflint. Dylan Iorwerth Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru


Dyma gofiant cyflawn sy'n llawn deunydd newydd am fywyd y Cymro Cymraeg a ddylanwadodd gymaint ar fywyd yr ugeinfed ganrif - llyfr fydd yn dangos bod ei Gymreictod yn greiddiol i'w waith a'i fydolwg. Ceir deunydd newydd, dadlennol gan y newyddiadurwr Ioan Roberts a ddaeth i nabod Philip a chael sawl cyfweliad ag e cyn ei farwolaeth. He was the greatest photographer and one of the finest journalists of my lifetime, and a humanitarian to match. His photographs of ordinary people, from his beloved Wales to Vietnam and the shadows of Cambodia, make you realise who the true heroes are. He was one of them. John Pilger -- Cyhoeddwr: Y Lolfa Roedd Philip Jones Griffiths wedi dweud fwy nag unwaith nad ffotograffydd rhyfel oedd o. Ac roedd yn iawn. Roedd yn llawer mwy na hynny. Mae ei luniau'n dal yr holl densiynau sy'n gallu arwain at ryfel, a'r tristwch a'r cymhlethdod sy'n dilyn. Pobl sydd yn y ffotograffau, nid arfau; gwrthdaro dwfn, nid ymladd arwynebol. Dim ond ffocws oedd rhyfeloedd. Pan dynnodd Philip Jones Griffiths lun o danc, roedd yna gyd-destun - bachgen yn Grenada yn chwarae pel-droed yn union o dan faril anferth y gwn. Pan ddangosodd o lond cwch o filwyr Americanaidd yn glanio ar draeth, roedd yna dair merch leol yn torheulo ym mlaen y llun. Sawl tro, mae yna un wyneb clir ynghanol tyrfa neu goedwig o blanhigion; mae tai a phobl werinol y Dwyrain yng nghysgod sloganau llachar cyfalafol y byd gorllewinol; yng Ngogledd Iwerddon, mae milwyr bygythiol ochr yn ochr a phobl a phlant sy'n byw eu bywydau bob dydd. Yn Rhuddlan y dechreuodd y cyfan. Fwy nag unwaith mi soniodd am y pentre oedd wedi ei ddal mewn tanchwa ddiwylliannol, a chymdeithas Gymraeg ei blentyndod yn cael ei boddi gan lif o bobl o lannau Mersi. Dyna'r math o wrthdaro oedd yn sylfaen i'w holl waith wedyn. Rhyfel diwylliannol, economaidd a moesol sy'n rhoi ffurf i'w waith. Ymhlith y detholiad o luniau yn y gyfrol yma, mae rhai o'r enghreifftiau enwoca: wyneb mam yn edrych i fyw'r lens a wynebau dilygaid ei dwy ferch o boptu iddi; gwraig arall a'i hwyneb wedi ei losgi'n ulw gan napalm ochr yn ochr a wyneb perffaith y ferch amddifad yr oedd wedi'i mabwysiadu. Canlyniadau Rhyfel Fietnam oedd y rheiny, wrth gwrs, y rhyfel a roddodd gyfeiriad clir i yrfa'r cyw-fferyllydd a ddaeth yn Llywydd ar Magnum, asiantaeth ffotograffiaeth enwoca'r byd, ac a helpodd newid agwedd ei genhedlaeth at ryfel. Mae'r gyfrol deyrnged yma'n gyflwyniad da iawn i'r dyn a'i waith ac, yn addas, y rhannau mwya gwreiddiol ydi'r sgyrsiau efo pobl oedd yn nabod y Philip ifanc ac sy'n gosod y crwydrwr a'r anturiwr yn ei gymdogaeth. Mae yna luniau da wedi'u dethol a dyfyniadau a sylwadau - gan Philip Jones Griffiths a'i edmygwyr - yn rhoi dwyster i'r dweud. Mae'r sgrifennu'n glir ac effeithiol - mae Ioan Roberts yn gallu gwneud i fanylyn fynegi llawer ac yn amseru pryd i bwyso'r botwm. Hunangofiant oedd y gobaith gwreiddiol, a fyddai neb yn gallu crynhoi ei fywyd fel Philip Jones Griffith ei hun, efo'i graffter a'i ffraethineb. Camp a chymwynas y gyfrol yma fydd gyrru pobl at luniau a sylwebethau pwerus y bachgen o Sir y Fflint. -- Dylan Iorwerth @ www.gwales.com


Dyma gofiant cyflawn sy’n llawn deunydd newydd am fywyd y Cymro Cymraeg a ddylanwadodd gymaint ar fywyd yr ugeinfed ganrif – llyfr fydd yn dangos bod ei Gymreictod yn greiddiol i’w waith a’i fydolwg. Ceir deunydd newydd, dadlennol gan y newyddiadurwr Ioan Roberts a ddaeth i nabod Philip a chael sawl cyfweliad ag e cyn ei farwolaeth. “He was the greatest photographer and one of the finest journalists of my lifetime, and a humanitarian to match. His photographs of ordinary people, from his beloved Wales to Vietnam and the shadows of Cambodia, make you realise who the true heroes are. He was one of them.” John Pilger -- Cyhoeddwr: Y Lolfa Roedd Philip Jones Griffiths wedi dweud fwy nag unwaith nad ffotograffydd rhyfel oedd o. Ac roedd yn iawn. Roedd yn llawer mwy na hynny. Mae ei luniau’n dal yr holl densiynau sy’n gallu arwain at ryfel, a’r tristwch a’r cymhlethdod sy’n dilyn. Pobl sydd yn y ffotograffau, nid arfau; gwrthdaro dwfn, nid ymladd arwynebol. Dim ond ffocws oedd rhyfeloedd. Pan dynnodd Philip Jones Griffiths lun o danc, roedd yna gyd-destun – bachgen yn Grenada yn chwarae pêl-droed yn union o dan faril anferth y gwn. Pan ddangosodd o lond cwch o filwyr Americanaidd yn glanio ar draeth, roedd yna dair merch leol yn torheulo ym mlaen y llun. Sawl tro, mae yna un wyneb clir ynghanol tyrfa neu goedwig o blanhigion; mae tai a phobl werinol y Dwyrain yng nghysgod sloganau llachar cyfalafol y byd gorllewinol; yng Ngogledd Iwerddon, mae milwyr bygythiol ochr yn ochr â phobl a phlant sy’n byw eu bywydau bob dydd. Yn Rhuddlan y dechreuodd y cyfan. Fwy nag unwaith mi soniodd am y pentre oedd wedi ei ddal mewn tanchwa ddiwylliannol, a chymdeithas Gymraeg ei blentyndod yn cael ei boddi gan lif o bobl o lannau Mersi. Dyna’r math o wrthdaro oedd yn sylfaen i’w holl waith wedyn. Rhyfel diwylliannol, economaidd a moesol sy’n rhoi ffurf i’w waith. Ymhlith y detholiad o luniau yn y gyfrol yma, mae rhai o’r enghreifftiau enwoca: wyneb mam yn edrych i fyw’r lens a wynebau dilygaid ei dwy ferch o boptu iddi; gwraig arall a’i hwyneb wedi ei losgi’n ulw gan napalm ochr yn ochr â wyneb perffaith y ferch amddifad yr oedd wedi’i mabwysiadu. Canlyniadau Rhyfel Fietnam oedd y rheiny, wrth gwrs, y rhyfel a roddodd gyfeiriad clir i yrfa’r cyw-fferyllydd a ddaeth yn Llywydd ar Magnum, asiantaeth ffotograffiaeth enwoca’r byd, ac a helpodd newid agwedd ei genhedlaeth at ryfel. Mae’r gyfrol deyrnged yma’n gyflwyniad da iawn i’r dyn a’i waith ac, yn addas, y rhannau mwya gwreiddiol ydi’r sgyrsiau efo pobl oedd yn nabod y Philip ifanc ac sy’n gosod y crwydrwr a’r anturiwr yn ei gymdogaeth. Mae yna luniau da wedi’u dethol a dyfyniadau a sylwadau – gan Philip Jones Griffiths a’i edmygwyr – yn rhoi dwyster i’r dweud. Mae’r sgrifennu’n glir ac effeithiol – mae Ioan Roberts yn gallu gwneud i fanylyn fynegi llawer ac yn amseru pryd i bwyso’r botwm. Hunangofiant oedd y gobaith gwreiddiol, a fyddai neb yn gallu crynhoi ei fywyd fel Philip Jones Griffith ei hun, efo’i graffter a’i ffraethineb. Camp a chymwynas y gyfrol yma fydd gyrru pobl at luniau a sylwebethau pwerus y bachgen o Sir y Fflint. -- Dylan Iorwerth @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

Aorrng

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List