|
|
|||
|
||||
OverviewWil Griffiths was brought up in the close-knit, rural community of Cornelofan, near Aberystwyth, and this volume provides a warm portrait of the locality. We are given a glimpse of one particular period in the life of the community, during the early years of the 20th century. Full Product DetailsAuthor: Will GriffithsPublisher: Gwasg Carreg Gwalch Imprint: Gwasg Carreg Gwalch ISBN: 9781845274726ISBN 10: 1845274725 Pages: 248 Publication Date: 05 March 2014 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsAr l cwyno am y tywydd, prif gwyn y rhelyw ohonom sydd wedi cyrraedd oed yr addewid yw prinder cymeriadau. Ac eto, o ystyried cynifer yr hunangofiannau syn ymddangos beunydd, bron iawn, maen amhosibl meddwl bod yna sail wirioneddol ir gwyn, ond oes, mae yna lai. Yn ei gip ar fywyd cefn gwlad, braf yw canfod yr awdur, Wil Griffiths, yn dathlu bywydau cymeriadau ei fro enedigol yn hytrach na galaru am eu diflaniad. Mae i deitl y gyfrol Mewn Un Cornel arwyddocd gan mai hanes bywyd un fro fechan, sef Cornelofan ar gyrion y Mynydd Bach ywr gyfrol. Seiliwyd hin rhannol ar hanesion ar gyfer cystadleuaeth gan Gymdeithas Hanes Amaethyddiaeth Ceredigion. Maen wir y cyfeirir at ddiflaniad yr hen ffordd o fyw, yr ymgasglu o gwmpas stand laeth i sgwrsio gydar nos, ar mewnlifiad a welodd Abernant yn troin Brookside. Ond rhyw ddiolch am yr hyn a gafwyd wnar awdur. Mae Wil ei hun yn gryn gymeriad. Yn gyn-athro a phrifathro, maen durniwr coed ac yn gasglwr llestri te capeli sydd wedi cau. Mae hefyd yn garafaniwr, yn flaenor, mae'n cadw gwenyn, ac fel siaradwr gwadd, does moi debyg. Maer esboniad dros grynhoir hanesion at ei gilydd yn chwa o awel iach. Does yma neb enwog, meddai, dim ond bywyd mewn dillad gwaith, yn ei symlrwydd, ei ddaioni ai bechod ar brydiau. Yn ddiddorol iawn, ni cheir penodau fel y rhai a geir mewn llyfr atgofion cyffredin. Yn hytrach ceir pum adran: Amser i Ddysgu, Amser i Werthu, Amser i Dyfu ac Amser i Bopeth. Ac yna, Amser i dynnu ymaith yr hyn a blannwyd. Llinyn yw bywyd, meddai'r awdur, gyda dechrau a diwedd. Anaml y gwelwch y gair fi yn y gyfrol. Na, hanes eraill a geir yma, pobl leol, syml a adawsant eu marc ar waliau cof yr awdur. Cawn ddarluniau byw o gymeriadau fel Mistir a Wil Woodward y siop. Bois y Felin wedyn, Cabinet y pentref. A Charles y Bws, a gyfieithodd Cornelofan i ambell Sais twp fel Afraid Corner. Cawn hanes effaith dyfodiad y ciosg ar y gymuned gls. Mae hanes Jim Bach ai Wdbein yn berl, ac mae sagar whilber yn Fabinogi ynddi ei hun. Ie, cyfrol hapus yw cyfrol Wil. Maen cyfeirio at oes a ddiflannodd, ydi, ond nid mewn ffordd alarus. Fel y dywed wrth gloi, gan ddyfynnu o Lyfr y Pregethwr, Hyn oll a welais i ... canys y mae amser i bopeth. Lyn Ebenezer Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Ar l cwyno am y tywydd, prif gwyn y rhelyw ohonom sydd wedi cyrraedd oed yr addewid yw prinder cymeriadau. Ac eto, o ystyried cynifer yr hunangofiannau syn ymddangos beunydd, bron iawn, maen amhosibl meddwl bod yna sail wirioneddol ir gwyn, ond oes, mae yna lai. Yn ei gip ar fywyd cefn gwlad, braf yw canfod yr awdur, Wil Griffiths, yn dathlu bywydau cymeriadau ei fro enedigol yn hytrach na galaru am eu diflaniad. Mae i deitl y gyfrol Mewn Un Cornel arwyddocd gan mai hanes bywyd un fro fechan, sef Cornelofan ar gyrion y Mynydd Bach, ywr gyfrol. Seiliwyd hin rhannol ar hanesion ar gyfer cystadleuaeth gan Gymdeithas Hanes Amaethyddiaeth Ceredigion. Maen wir y cyfeirir at ddiflaniad yr hen ffordd o fyw, yr ymgasglu o gwmpas stand laeth i sgwrsio gydar nos, ar mewnlifiad a welodd Abernant yn troin Brookside. Ond rhyw ddiolch am yr hyn a gafwyd wnar awdur. Mae Wil ei hun yn gryn gymeriad. Yn gyn-athro a phrifathro, maen durniwr coed ac yn gasglwr llestri te capeli sydd wedi cau. Mae hefyd yn garafaniwr, yn flaenor, mae'n cadw gwenyn, ac fel siaradwr gwadd, does moi debyg. Maer esboniad dros grynhoir hanesion at ei gilydd yn chwa o awel iach. Does yma neb enwog, meddai, dim ond bywyd mewn dillad gwaith, yn ei symlrwydd, ei ddaioni ai bechod ar brydiau. Yn ddiddorol iawn, ni cheir penodau fel y rhai a geir mewn llyfr atgofion cyffredin. Yn hytrach ceir pum adran: Amser i Ddysgu, Amser i Werthu, Amser i Dyfu ac Amser i Bopeth. Ac yna, Amser i dynnu ymaith yr hyn a blannwyd. Llinyn yw bywyd, meddai'r awdur, gyda dechrau a diwedd. Anaml y gwelwch y gair fi yn y gyfrol. Na, hanes eraill a geir yma, pobl leol, syml a adawodd eu marc ar waliau cof yr awdur. Cawn ddarluniau byw o gymeriadau fel Mistir a Wil Woodward y siop. Bois y Felin wedyn, Cabinet y pentref. A Charles y Bws, a gyfieithodd Cornelofan i ambell Sais twp fel Afraid Corner. Cawn hanes effaith dyfodiad y ciosg ar y gymuned gls. Mae hanes Jim Bach ai Wdbein yn berl, ac mae sagar whilber yn Fabinogi ynddi ei hun. Ie, cyfrol hapus yw cyfrol Wil. Maen cyfeirio at oes a ddiflannodd, ydi, ond nid mewn ffordd alarus. Fel y dywed wrth gloi, gan ddyfynnu o Lyfr y Pregethwr, Hyn oll a welais i ... canys y mae amser i bopeth. Lyn Ebenezer Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |