|
|
|||
|
||||
OverviewA collection of the reminiscences of friends and acquaintances of Ieu Rhos (Ieuan Roberts, 1949-2016), a unique character and Welsh language campaiger. Full Product DetailsAuthor: Arthur ThomasPublisher: Gwasg Carreg Gwalch Imprint: Gwasg Carreg Gwalch ISBN: 9781845276331ISBN 10: 1845276337 Pages: 168 Publication Date: 05 July 2017 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsRwyn cofio ir Parchedig Idwal Jones, Llanrwst, grybwyll yn un oi bregethau cyrddau mawr mai testun chwerthin oedd dyn bach mewn siwt rhy fawr. Aeth ymlaen i ymhelaethu fod digonedd o esiamplau iw cael yn y Gymru a oedd ohoni yn llenwi swyddi pwysig a oedd ymhell tu hwnt iw cyraeddiadau. Nododd, ar y llaw arall, mai testun tristwch oedd gweld dyn mawr mewn siwt rhy fach iddo, a chyfeiriodd at nifer o chwarelwyr a glowyr diwylliedig a gollodd eu cyfle i wneud cyfiawnder u doniau am na chawsant gyfle i barhau u haddysg.Perthyn ir ail garfan a wni Ieu Rhos, gwrthrych y gyfrol hon, ond go brin y byddai'n cyfrif ei hunan yn destun tristwch. Enillodd radd mewn Hanes yng Ngholeg Prifysgol Abertawe, er gwaethar ffaith iddo orfod sefyll ei arholiadau terfynol yn y carchar oherwydd ei weithgaredd gyda Chymdeithas yr Iaith. Ei ddewis ef oedd dychwelyd wedyn i dreulioi oes yn yrrwr bws ymhlith ei bobl ei hunan. Ni fynnai wisgo siwt parchusrwydd y dosbarth canol nac ychwaith droi cefn ar Gymreictod a Sosialaeth gynnes ei fro enedigol yn Rhosllannerchrugog. Gwyddai mai yno roedd ei le yn sefydlu Nene, y papur bro lleol, a chlwb rygbir pentre ac yn cefnogi holl ddigwyddiadau Cymraeg yr ardal, gwta ddeng milltir or ffin Lloegr.Yr oedd y brogarwch hwn yn sail gadarn iw genedlaetholdeb. Brwydrain ddygn dros y Gymraeg a bun aelod gweithredol o Gymdeithas yr Iaith ac yn Ysgrifennydd ir mudiad am gyfnod. Ymhyfrydai mewn hanes lleol a byddai wrth ei fodd yn tyrchu drwy ddogfennau. Go brin hefyd iddo golli Eisteddfod Genedlaethol dros gyfnod o hanner canrif. Maen arwyddocaol i gynifer o gyfranwyr y gyfrol hon nodi mai yn Eisteddfod y Fenni 2016 y bur cyfarfod olaf, rhyw wythnos cyn ei farwolaeth sydyn. Yr oedd yn ei hwyliau yno, er i Arthur Thomas nodi fod yna wich ychwanegol ir peswch sigarts, ac i Dafydd Iwan sylwi ei fod fymryn yn llai ymosodol nag arfer.Golygwyd y gyfrol gan Arthur Thomas, un oi gyfeillion pennaf, ac maen cynnwys teyrngedau gan nifer oi ffrindiau, ynghyd detholiad o lythyrau ac o ddyddiadur syn deillio oi gyfnod yng ngharchar Abertawe. Ni ddeuthum, mor bell ag y gwn, ar draws Ieu Rhos erioed ond o ddarllen y gyfrol ni allaf lai na chynhesu at y Cymro hwn a fu mor driw iw egwyddorion. Os oedd yn arw ei air yr oedd yn hael ei galon.Idris ReynoldsGellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |