Gavi

Author:   Sonia Edwards
Publisher:   Gwasg y Bwthyn Cyf
ISBN:  

9781912173396


Pages:   190
Publication Date:   15 September 2020
Format:   Paperback
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $23.29 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Gavi


Add your own review!

Overview

An intriguing family saga by one of Wales' leading authors. Gavi, the Italian wine, links the characters who are all enquiring if we really know those people who are closest to us? -- Cyngor Llyfrau Cymru

Full Product Details

Author:   Sonia Edwards
Publisher:   Gwasg y Bwthyn Cyf
Imprint:   Gwasg y Bwthyn Cyf
ISBN:  

9781912173396


ISBN 10:   1912173395
Pages:   190
Publication Date:   15 September 2020
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Mae gan Sonia Edwards ddawn amheuthun wrth delynegu am straeon caru. Dyma sydd amlycaf yn Gavi - y cariad, a sut mae hwnnw'n bodoli law yn llaw a hapusrwydd. Yn ei chyffyrddiadau ysgafn o gymhariaethau a throsiadau, daw dogn o dynerwch i'r dweud ac o'r herwydd, mae'r cariad yn llewyrchu. Gwelwn hyn ar ei buraf ym mherthynas Lwsi a Llew, yn arbennig felly pan gawn wybod sut gyfarfu'r ddau. Cyfres o ddigwyddiadau yn canlyn ar hap a dywysodd y ddau at ei gilydd - y Butterfly Effect yn ysgwyd ei hudlath eto. Ond dydi pethau ddim yn fel i gyd. Paru anghymharus yw bwrn trymaf y nofel hon, a chanlyniadau dybryd hynny ar fywydau pobl. At hyn, cyfyd themau o atgasedd, twyll a dialedd, sy'n cynnig inni ddarlun gonest o ffaeledigrwydd dynol. Ond er eu beiau, mae medr yr awdur i ychwanegu edefyn hoffus i'w chymeriadau yn golygu iddynt lwyddo i dynnu ar dant cydymdeimladol tu mewn i'r darllenydd o bryd i'w gilydd hefyd. Ac maen nhw'n gymeriadau lliwgar. Mae yma gyferbyniad cytbwys o bersonoliaethau - y pwyllog a'r byrbwyll, y galon-feddal a'r cythreulig, yr un sy'n cadw wyneb a'r llall sy'n gwegian ar goedd. Ac yn taro ei gysgod dros bopeth, mae'r ' rhywbeth solet, cynnes, anniffiniol hwnnw' y mae'r cymeriadau oll yn deisyfu amdano - 'rhywbeth' tu hwnt i fyrhoedledd chwant a hapusrwydd dros dro. Mae'r awdur yn gelfydd o ymatalgar yn ei ffordd o ddadlennu'r cyfrinachau sy'n britho'r nofel, ac yn graff yn ei hymdriniaeth o'r cymhlethdod a ddaw yn sgil y dadlennu hwnnw. Rhaid canmol y naws a greir o ganlyniad i hyn - mae popeth mor fregus nes inni deimlo y byddai un cam gwag gan gymeriad yn golygu distryw ym mywydau sawl un arall. Dyma a wna'r nofel mor afaelgar - mae'r cymeriadau yn cordeddu cymaint ym mywydau ei gilydd nes i'r darllenydd fedru synhwyro perygl ar droed yn gyson. Ond a wnaiff pob perygl gyrraedd ei benllanw? Erin Hughes -- Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn Os cawsoch chi, fel fi, eich swyno gan y gyfrol Rhannu Ambarel, rwy'n hyderus y gwnewch chi fwynhau hon, nofel ddiweddaraf Sonia Edwards. Dyma saga amlhaenog, afaelgar am deulu sy'n gwegian dan bwysau ei gyfrinachau. Mae gan bob cymeriad yn y nofel ei gyfrinach ei hun ac mae pob un yn ei dro yn ceisio rhesymoli a chyfiawnhau ei resymau dros geisio claddu'r gwir: pa fudd sydd o ddweud y gwir? Onid y peth clenia' weithiau yw dweud celwydd? Ond yn raddol drwy'r nofel, yn null cynnil a disgybledig yr awdur, mae cwlwm tyn o gyfrinachau'n datod fel pelen o edafedd. Llwydda Sonia Edwards i greu cymeriadau sydd, er gwaethaf eu twyll, eu hanonestrwydd, eu hunanoldeb a'u hawydd i ddial, yn ennyn ein cydymdeimlad. Ei dawn yw ein galluogi i fynd y tu hwnt i'r cyfrinachau a'r celwydd, i ymuniaethu a'r bobl hyn ar lefel ddynol ac i ddeall 'pam'. Yn anad dim, cariad yw prif thema'r nofel. Yn debyg i Rhannu Ambarel, mae sawl math o gariad yn cael ei ddadansoddi a'i ddadelfennu'n graff dan chwyddwydr yr awdur. Archwilir y modd y gall cariad reoli ein hapusrwydd, ein codi'n uwch na'r cymylau a'n tynnu'n ddisymwth i lawr i'r dyfnderoedd. Gellid dadlau mai ym mherthynas Lwsi a Llew y profir cariad ar ei buraf - y cariad hwnnw sydd bron ag ymgyrraedd at y delfryd Platonaidd - ond nid yw hyn yn gyfystyr a dweud bod eu profiad hwy o fod mewn cariad yn fwy dilys na phrofiadau'r cymeriadau eraill. O'r dechrau'n deg, mae'r awdur yn herio'r syniad bod modd gwahaniaethu'n daclus rhwng cariad a serch: 'Dim ond rhyw ydi o, meddet ti? Chwant? Blys byrhoedlog nad ydi o byth yn goroesi? Nad ydi o'n golygu dim? [...] Ac mi ddyweda inna wrthat titha: wyddost ti ddim be' ydi bod mewn cariad.' Yn wir, prin iawn yw'r awduron sy'n medru ysgrifennu mor gelfydd a Sonia Edwards am gariad. Does dim yn ystrydebol am ei hymdriniaeth a'r thema oesol hon. Yn ei harddull gyfareddol, unigryw, sy'n hardd heb fod yn flodeuog, dangosa'r awdur yn y nofel hon fod cariad yn feistr ar bob un ohonom. -- Non Mererid Jones @ www.gwales.com


Mae gan Sonia Edwards ddawn amheuthun wrth delynegu am straeon caru. Dyma sydd amlycaf yn Gavi - y cariad, a sut mae hwnnw'n bodoli law yn llaw a hapusrwydd. Yn ei chyffyrddiadau ysgafn o gymhariaethau a throsiadau, daw dogn o dynerwch i'r dweud ac o'r herwydd, mae'r cariad yn llewyrchu. Gwelwn hyn ar ei buraf ym mherthynas Lwsi a Llew, yn arbennig felly pan gawn wybod sut gyfarfu'r ddau. Cyfres o ddigwyddiadau yn canlyn ar hap a dywysodd y ddau at ei gilydd - y Butterfly Effect yn ysgwyd ei hudlath eto. Ond dydi pethau ddim yn fel i gyd. Paru anghymharus yw bwrn trymaf y nofel hon, a chanlyniadau dybryd hynny ar fywydau pobl. At hyn, cyfyd themau o atgasedd, twyll a dialedd, sy'n cynnig inni ddarlun gonest o ffaeledigrwydd dynol. Ond er eu beiau, mae medr yr awdur i ychwanegu edefyn hoffus i'w chymeriadau yn golygu iddynt lwyddo i dynnu ar dant cydymdeimladol tu mewn i'r darllenydd o bryd i'w gilydd hefyd. Ac maen nhw'n gymeriadau lliwgar. Mae yma gyferbyniad cytbwys o bersonoliaethau - y pwyllog a'r byrbwyll, y galon-feddal a'r cythreulig, yr un sy'n cadw wyneb a'r llall sy'n gwegian ar goedd. Ac yn taro ei gysgod dros bopeth, mae'r ' rhywbeth solet, cynnes, anniffiniol hwnnw' y mae'r cymeriadau oll yn deisyfu amdano - 'rhywbeth' tu hwnt i fyrhoedledd chwant a hapusrwydd dros dro. Mae'r awdur yn gelfydd o ymatalgar yn ei ffordd o ddadlennu'r cyfrinachau sy'n britho'r nofel, ac yn graff yn ei hymdriniaeth o'r cymhlethdod a ddaw yn sgil y dadlennu hwnnw. Rhaid canmol y naws a greir o ganlyniad i hyn - mae popeth mor fregus nes inni deimlo y byddai un cam gwag gan gymeriad yn golygu distryw ym mywydau sawl un arall. Dyma a wna'r nofel mor afaelgar - mae'r cymeriadau yn cordeddu cymaint ym mywydau ei gilydd nes i'r darllenydd fedru synhwyro perygl ar droed yn gyson. Ond a wnaiff pob perygl gyrraedd ei benllanw? Erin Hughes -- Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn Os cawsoch chi, fel fi, eich swyno gan y gyfrol Rhannu Ambarel, rwy'n hyderus y gwnewch chi fwynhau hon, nofel ddiweddaraf Sonia Edwards. Dyma saga amlhaenog, afaelgar am deulu sy'n gwegian dan bwysau ei gyfrinachau. Mae gan bob cymeriad yn y nofel ei gyfrinach ei hun ac mae pob un yn ei dro yn ceisio rhesymoli a chyfiawnhau ei resymau dros geisio claddu'r gwir: pa fudd sydd o ddweud y gwir? Onid y peth clenia' weithiau yw dweud celwydd? Ond yn raddol drwy'r nofel, yn null cynnil a disgybledig yr awdur, mae cwlwm tyn o gyfrinachau'n datod fel pelen o edafedd. Llwydda Sonia Edwards i greu cymeriadau sydd, er gwaethaf eu twyll, eu hanonestrwydd, eu hunanoldeb a'u hawydd i ddial, yn ennyn ein cydymdeimlad. Ei dawn yw ein galluogi i fynd y tu hwnt i'r cyfrinachau a'r celwydd, i ymuniaethu a'r bobl hyn ar lefel ddynol ac i ddeall 'pam'. Yn anad dim, cariad yw prif thema'r nofel. Yn debyg i Rhannu Ambarel, mae sawl math o gariad yn cael ei ddadansoddi a'i ddadelfennu'n graff dan chwyddwydr yr awdur. Archwilir y modd y gall cariad reoli ein hapusrwydd, ein codi'n uwch na'r cymylau a'n tynnu'n ddisymwth i lawr i'r dyfnderoedd. Gellid dadlau mai ym mherthynas Lwsi a Llew y profir cariad ar ei buraf - y cariad hwnnw sydd bron ag ymgyrraedd at y delfryd Platonaidd - ond nid yw hyn yn gyfystyr a dweud bod eu profiad hwy o fod mewn cariad yn fwy dilys na phrofiadau'r cymeriadau eraill. O'r dechrau'n deg, mae'r awdur yn herio'r syniad bod modd gwahaniaethu'n daclus rhwng cariad a serch: 'Dim ond rhyw ydi o, meddet ti? Chwant? Blys byrhoedlog nad ydi o byth yn goroesi? Nad ydi o'n golygu dim? [...] Ac mi ddyweda inna wrthat titha: wyddost ti ddim be' ydi bod mewn cariad.' Yn wir, prin iawn yw'r awduron sy'n medru ysgrifennu mor gelfydd a Sonia Edwards am gariad. Does dim yn ystrydebol am ei hymdriniaeth a'r thema oesol hon. Yn ei harddull gyfareddol, unigryw, sy'n hardd heb fod yn flodeuog, dengys yr awdur yn y nofel hon fod cariad yn feistr ar bob un ohonom. -- Non Mererid Jones @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

Aorrng

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List