|
|
|||
|
||||
OverviewAn important volume that discusses dementia by those who are directly affected by the condition - parents, grandchildren, children, partner, care workers, nurses, doctors and specialists in the field. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Golygydd: Beti GeorgePublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9781800990449ISBN 10: 1800990448 Pages: 160 Publication Date: 22 October 2021 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsWy'n cofio bod ar gwrs rhywbryd a chlywed rhywun yn disgrifio dementia fel gwylio daeargryn yn effeithio ar silffoedd llyfrau. Ystyriwch y llyfrau fel y profiadau ac atgofion a gewch yn ystod eich bywyd. Dros y blynyddoedd, fe osodwch chi'r llyfrau ar silffoedd y cof, gan ddechrau ar y gwaelod. Caiff eich atgofion cynharaf eu cadw ar y silffoedd isaf, ac rydych chi'n parhau i lenwi'r silffoedd tuag i fyny. Yna daw dementia ar ffurf daeargryn ac ysgwyd y silffoedd. Y llyfrau sydd ar y silffoedd uchaf fydd y cyntaf i syrthio, tra bod y llyfrau ar y silffoedd islaw yn dueddol o aros yn eu lle'n hirach. I mi, roedd y ddelwedd hon yn drawiadol ac yn un hynod effeithiol wrth geisio esbonio mewn modd syml sut yr oedd yr ymennydd yn dirywio gyda'r cyflwr, y ffordd y mae'r atgofion mwyaf diweddar yn cael eu colli a'r rhai cynharaf yn para hiraf. Mae bron yn amhosibl dirnad proses y golled, y breuo a'r dirywiad, mae bron yn amhosib dirnad beth yw natur y clefyd difaol hwn. Yn y gyfrol Datod, mae Beti George wedi casglu nifer o ysgrifau ac erthyglau byrion ynghyd gan sawl cyfrannydd er mwyn rhoi golwg 360 Degrees i ni ar ddementia. Cyfrol eglur, wybodus, ddiflewyn-ar-dafod yw hon, ond un sy'n llawn empathi ac emosiwn hefyd. Tipyn o gamp. Cyfrol gymharol fechan yw hi o ran ei hyd, ond mae'n ddigon, ac mae'n gwneud gwaith aruthrol rhwng ei dalennau. Drwy gyfrwng ffenestri eu hysgrifau mae gofalwyr a pherthnasau, gan gynnwys un cyfweliad gyda rhywun sydd a dementia arni, yn rhoi golwg i ni ar sut beth ydy byw gyda dementia. Mae'r testimoni'n ddirdynnol, digon i lorio'r darllenydd heb son am y bobl ddewr a dygn sy'n parhau, ddiwrnod ar ol diwrnod, i gynnal a chadw eu hanwyliaid tra bod y clefyd creulon a didostur hwn yn creu dinistr. Mae'r system iechyd yn eu herbyn a gofal yn ddrud - mae'n amlwg y caiff pobl sydd a dementia eu methu, a'u teuluoedd hefyd, sy'n gwneud sefyllafoedd trist yn rhai annioddefol, bron. Dro ar ol tro, mae'r ffaith bod y Gymraeg yn hanfodol i les a chysur pobl yn adleisio drwy'r gyfrol fel cytgan, gan bwysleisio bod cerddoriaeth, canu ac emynau yn fodd i leddfu ofnau am eu bod oll yn ffyrdd uniongyrchol yn ol at y blynyddoedd cynnar. Yn ogystal, ceir erthyglau eglur a hawdd eu darllen gan feddygon, gwyddonwyr ac arbenigwyr ar y cyflwr o ran y goblygiadau corfforol, meddygol a gwyddonol. Maent yn esbonio'n union beth sy'n digwydd. Ceir trafodaeth ar yr adnoddau a'r gwasanaeth sydd ar gael i bobl. Mae'r wybodaeth yn hollol realistig ond hefyd, nid yw'n gwbl ddiobaith chwaith. Dyma gyfrol sy'n gwneud cymwynas fawr a ni bob un, oherwydd mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf ohonom naill ai'n adnabod rhywun a dementia, neu'n perthyn i rywun, yn gofalu ar ol rhywun, neu'n dioddef o ddementia ein hunain. Mae'n bryd i ni i gyd fod yn trafod dementia. -- Elinor Wyn Reynolds @ www.gwales.com Wy'n cofio bod ar gwrs rhywbryd a chlywed rhywun yn disgrifio dementia fel gwylio daeargryn yn effeithio ar silffoedd llyfrau. Ystyriwch y llyfrau fel y profiadau ac atgofion a gewch yn ystod eich bywyd. Dros y blynyddoedd, fe osodwch chi'r llyfrau ar silffoedd y cof, gan ddechrau ar y gwaelod. Caiff eich atgofion cynharaf eu cadw ar y silffoedd isaf, ac rydych chi'n parhau i lenwi'r silffoedd tuag i fyny. Yna daw dementia ar ffurf daeargryn ac ysgwyd y silffoedd. Y llyfrau sydd ar y silffoedd uchaf fydd y cyntaf i syrthio, tra bod y llyfrau ar y silffoedd islaw yn dueddol o aros yn eu lle'n hirach. I mi, roedd y ddelwedd hon yn drawiadol ac yn un hynod effeithiol wrth geisio esbonio mewn modd syml sut yr oedd yr ymennydd yn dirywio gyda'r cyflwr, y ffordd y mae'r atgofion mwyaf diweddar yn cael eu colli a'r rhai cynharaf yn para hiraf. Mae bron yn amhosib dirnad proses y golled, y breuo a'r dirywiad, ac mae bron yn amhosib dirnad beth yw natur y clefyd difaol hwn. Yn y gyfrol Datod, mae Beti George wedi casglu nifer o ysgrifau ac erthyglau byrion ynghyd gan sawl cyfrannydd er mwyn rhoi golwg 360 Degrees i ni ar ddementia. Cyfrol eglur, wybodus, ddiflewyn-ar-dafod yw hon, ond un sy'n llawn empathi ac emosiwn hefyd. Tipyn o gamp. Cyfrol gymharol fechan yw hi o ran ei hyd, ond mae'n ddigon, ac mae'n gwneud gwaith aruthrol rhwng ei dalennau. Drwy gyfrwng ffenestri eu hysgrifau mae gofalwyr a pherthnasau, gan gynnwys un cyfweliad gyda rhywun sydd a dementia arni, yn rhoi golwg i ni ar sut beth ydy byw gyda dementia. Mae'r testimoni'n ddirdynnol, digon i lorio'r darllenydd heb son am y bobl ddewr a dygn sy'n parhau, ddiwrnod ar ol diwrnod, i gynnal a chadw eu hanwyliaid tra bod y clefyd creulon a didostur hwn yn creu dinistr. Mae'r system iechyd yn eu herbyn a gofal yn ddrud - mae'n amlwg y caiff pobl sydd a dementia eu siomi, a'u teuluoedd hefyd, sy'n gwneud sefyllfaoedd trist yn rhai annioddefol, bron. Dro ar ol tro, mae'r ffaith bod y Gymraeg yn hanfodol i les a chysur pobl yn adleisio drwy'r gyfrol fel cytgan, gan bwysleisio bod cerddoriaeth, canu ac emynau yn fodd i leddfu ofnau am eu bod oll yn ffyrdd uniongyrchol yn ol at y blynyddoedd cynnar. Yn ogystal, ceir erthyglau eglur a hawdd eu darllen gan feddygon, gwyddonwyr ac arbenigwyr ar y cyflwr o ran y goblygiadau corfforol, meddygol a gwyddonol. Maent yn esbonio'n union beth sy'n digwydd. Ceir trafodaeth ar yr adnoddau a'r gwasanaeth sydd ar gael i bobl. Mae'r wybodaeth yn hollol realistig ond ar yr un pryd, nid yw'n gwbl ddiobaith chwaith. Dyma gyfrol sy'n gwneud cymwynas fawr a ni bob un, oherwydd mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf ohonom naill ai'n adnabod rhywun a dementia, neu'n perthyn i rywun, yn gofalu am rywun, neu'n dioddef o ddementia ein hunain. Mae'n bryd i ni i gyd fod yn trafod dementia. -- Elinor Wyn Reynolds @ www.gwales.com Wy'n cofio bod ar gwrs rhywbryd a chlywed rhywun yn disgrifio dementia fel gwylio daeargryn yn effeithio ar silffoedd llyfrau. Ystyriwch y llyfrau fel y profiadau ac atgofion a gewch yn ystod eich bywyd. Dros y blynyddoedd, fe osodwch chi'r llyfrau ar silffoedd y cof, gan ddechrau ar y gwaelod. Caiff eich atgofion cynharaf eu cadw ar y silffoedd isaf, ac rydych chi'n parhau i lenwi'r silffoedd tuag i fyny. Yna daw dementia ar ffurf daeargryn ac ysgwyd y silffoedd, y llyfrau sydd ar y silffoedd uchaf fydd y cyntaf i syrthio, tra bod y llyfrau ar y silffoedd islaw yn dueddol o aros yn eu lle'n hirach. I mi, roedd y ddelwedd hon yn un reit drawiadol ac yn dra effeithiol ar esbonio mewn modd syml sut yr oedd yr ymennydd yn dirywio gyda'r cyflwr, y ffordd y mae'r atgofion mwyaf diweddar yn cael eu colli a'r rhai cynharaf yn para hiraf. Mae bron yn amhosibl dirnad proses y golled, y breuo a'r dirywiad, mae bron yn amhosib dirnad beth yw natur y clefyd difaol hwn. Yn y gyfrol Datod, mae Beti George wedi casglu nifer o ysgrifau ac erthyglau byrion ynghyd gan sawl cyfrannydd er mwyn rhoi golwg 360 Degrees i ni ar ddementia. Cyfrol eglur, wybodus, ddiflewyn-ar-dafod yw hon, ond un sy'n llawn empathi ac emosiwn hefyd. Tipyn o gamp. Cyfrol gymharol fechan yw hi o ran ei hyd, ond mae'n ddigon, ac mae'n gwneud gwaith aruthrol rhwng ei dalennau. Drwy gyfrwng ffenestri eu hysgrifau mae gofalwyr a pherthnasau, gan gynnwys un cyfweliad gyda rhywun sydd a dementia arni, yn rhoi golwg i ni ar sut beth ydy byw gyda dementia. Mae'r testimoni'n ddirdynnol, digon i lorio'r darllenydd heb son am y bobl ddewr a dygn sy'n parhau, ddiwrnod ar ol diwrnod, i gynnal a chadw eu hanwyliaid tra bod y clefyd creulon a didostur hwn yn creu dinistr. Mae'r system iechyd yn eu herbyn a gofal yn ddrud - mae'n amlwg y caiff pobl sydd a dementia eu methu, a'u teuluoedd hefyd, sy'n gwneud sefyllafoedd trist yn rhai annioddefol, bron. Dro ar ol tro, mae'r ffaith bod y Gymraeg yn hanfodol i les a chysur pobl yn adleisio drwy'r gyfrol fel cytgan, a cherddoriaeth, canu ac emynau yn fodd i leddfu ofnau am eu bod oll yn ffyrdd uniongyrchol yn ol at y blynyddoedd cynnar. Yn ogystal, ceir erthyglau eglur a hawdd eu darllen gan feddygon, gwyddonwyr ac arbenigwyr ar y cyflwr o ran y goblygiadau corfforol, meddygol a gwyddonol. Maent yn esbonio'n union beth sy'n digwydd. Ceir trafodaeth ar yr adnoddau a'r gwasanaeth sydd ar gael i bobl. Mae'r wybodaeth yn hollol realistig ond hefyd, nid yw'n gwbl ddiobaith chwaith. Dyma gyfrol sy'n gwneud cymwynas fawr a ni bob un, oherwydd mae'n debyg y bydd y rhan fwyaf ohonom naill ai'n adnabod rhywun a dementia, neu'n perthyn i rywun, yn gofalu ar ol rhywun, neu'n dioddef o ddementia ein hunain. Mae'n bryd i ni i gyd fod yn trafod dementia. -- Elinor Wyn Reynolds @ www.gwales.com Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |