Dala'r Slac yn Dynn

Author:   John Davies gyda Wyn Gruffydd ,  Wyn Gruffydd
Publisher:   Y Lolfa
ISBN:  

9781847713285


Pages:   256
Publication Date:   28 November 2013
Format:   Paperback
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $25.75 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Dala'r Slac yn Dynn


Add your own review!

Overview

The autobiography of the legendary rugby player John Davies, co-written with rugby commentator Wyn Gruffydd. One of the giants of the Neath and Llanelli front rows for many years, John won 34 caps for Wales, and is acknowledged as one of the hardest and most consistent players in the game during the past two decades.

Full Product Details

Author:   John Davies gyda Wyn Gruffydd ,  Wyn Gruffydd
Publisher:   Y Lolfa
Imprint:   Y Lolfa
ISBN:  

9781847713285


ISBN 10:   1847713289
Pages:   256
Publication Date:   28 November 2013
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Rhuddin yw'r gynneddf a nodir i esbonio llwyddiant John Davies. Defnyddir y gair i esbonio ei gadernid a'i gryfder naturiol wrth iddo ddatgelu na threuliodd oriau benbwygilydd mewn campfa yn codi pwysau yn ystod ei brifiant, fel y gwna'r chwaraewyr rygbi cyfoes. Cydio mewn rhaw, picwarch, bls a llwdn rhoes i'r prop pen tyn y cryfder naturiol i ddal ati pan mae'r poen yn ddirdynnol. O fynegi'r peth yn nhafodiaeth Davies ei hun wel, wedd rhaid cwn gwair, gwlei, pothelli ar ddwylo neu beidio. Does dim ildio ar y cae chwarae, chwaith, pan mae rhuddin yn llywodraethu. Fel aelod o'r rheng flaen cawn wybod am y gwrthwynebwyr lletchwith a bwystfilaidd a'i poenydiodd yn nirgel gilfachau'r sgrym ond gan fynnu, wrth gwrs, iddo feistroli'r rhan fwyaf ohonyn nhw dros gyfnod o chwarter canrif a'r feistrolaeth honno a roes iddo 34 o gapiau rhyngwladol. Ffrancwyr oedd y rhan fwyaf o'r gwrthwynebwyr hynny ond heb anghofio am wytnwch Peter Wright, Os du Randt a Jeff Pardoe. Deffra'r enwau a nodir y cof am helyntion a fu; oes aur Castell-nedd o dan Ron Waldron, cystadleuaeth 'Y Cymro Cryfaf', y garden goch ddadleuol yn erbyn Lloegr yn 1995, Steve Hansen a'i honiad bod angen cadair olwyn i gludo John o ryc i ryc, heb anghofio am Brian Williams a'r 'donc' chwedlonol. John, Brian a Kevin Phillips neu Cilrhue, Dandderwen a Hafod-y-pwll y tri ffarmwr y daethpwyd i'w hadnabod fel 'Triawd y Buarth' a ffurfiai rheng flaen Castell-nedd ar un adeg. Nodwedd o'r gyfrol yw'r cyfoeth o briod-ddulliau cefn gwlad sy'n britho'r tudalennau fel cwrens mewn eira, gan brofi bod y Gymraeg yn iaith fyw ar leferydd y traethydd. Diau fod gan Wyn Gruffydd, y sylwebydd rygbi arobryn, ran yn hynny gan mai iddo fe y syrthiodd y dasg o roi trefn ar y gyfrol. Wedi'r cyfan, Wyn yw pencampwr priod-ddulliau'r pridd, ar gownt ei gefndir sydd yr un mor ddwfwn yn y byd amaeth ag yw yn y byd rygbi. Os nad yn ddwy daten o'r un rhych, yn sicr mae'r ddau yn ddwy daten o ddwy rych gyferbyn 'i gilydd. Ar ryw olwg mae'r teitl yn gamarweiniol. Rhyw segura jycs yw ystyr 'dala'r slac yn dynn'. Ond mae'n ymateb cyson ei ddefnydd; eto, yn nhafodiaith yr ardal synno'r gwydn a'r gweithgar ym mro'r Preselau yn gweld diben mewn bragan ei hun. Pa ddiben sydd mewn hongian yr olch gyfan ar lein yr ardd ffrynt? Yr un modd, nid yw'r gynghanedd yn tynnu sylw ati hi'i hun yng ngherdd gyfarch y prifardd Ceri Wyn. Os oes yna ruddin yn perthyn i ffyddloniaid cyfoes y Boncath Inn, mawr obeithiaf na fyddan nhw fawr o dro yn gosod y gerdd ar eu cof. O wneud hynny, hwyrach, y deffrir yn eu plith y cof o'r penillion hynny y byddai Jac Cilrhue, tad-cu John, yn eu gweithio i gofnodi troeon trwstan yr ardal. Dengys Gerald Davies yn ei gyflwyniad yntau ei fod wedi gweld gogoniant 'Cilrhue' a'r fro. Hefin Wyn Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru


Rhuddin yw'r gynneddf a nodir i esbonio llwyddiant John Davies. Defnyddir y gair i esbonio'i gadernid a'i gryfder naturiol wrth iddo ddatgelu na threuliodd oriau bwygilydd mewn campfa yn codi pwysau pan oedd ar ei brifiant, fel y gwna'r chwaraewyr rygbi cyfoes. Cydio mewn rhaw, picwarch, bls a llwdn roes i'r prop pen tyn y cryfder naturiol i ddal ati pan mae'r poen yn ddirdynnol. O fynegi'r peth yn nhafodiaith Davies ei hun wel, wedd rhaid cwn gwair, gwlei, pothelli ar ddwylo neu beidio. Does dim ildio ar y cae chwarae, chwaith, pan mae rhuddin yn llywodraethu. Cawn wybod am y gwrthwynebwyr lletchwith a bwystfilaidd a'i poenydiodd yn nirgel gilfachau'r sgrym ond gan fynnu, wrth gwrs, iddo lwyddo i feistroli'r rhan fwyaf ohonyn nhw dros gyfnod o chwarter canrif, a'r feistrolaeth honno a roes iddo 34 o gapiau rhyngwladol. Ffrancwyr oedd y rhan fwyaf o'r gwrthwynebwyr hynny, heb anghofio am wytnwch Peter Wright, Os du Randt a Jeff Pardoe. Deffra'r enwau a nodir y cof am helyntion a fu; oes aur Castell-nedd o dan Ron Waldron, cystadleuaeth 'Y Cymro Cryfaf', y garden goch ddadleuol yn erbyn Lloegr yn 1995, Steve Hansen a'i honiad bod angen cadair olwyn i gludo John o ryc i ryc, heb anghofio am Brian Williams a'r 'donc' chwedlonol. John, Brian a Kevin Phillips neu Cilrhue, Dandderwen a Hafod-y-pwll y tri ffarmwr y daethpwyd i'w hadnabod fel 'Triawd y Buarth' a ffurfiai reng flaen Castell-nedd ar un adeg. Nodwedd o'r gyfrol yw'r cyfoeth o briod-ddulliau cefn gwlad sy'n britho'r tudalennau fel cwrens mewn eira, gan brofi bod y Gymraeg yn iaith fyw ar leferydd y traethydd. Diau fod gan Wyn Gruffydd, y sylwebydd rygbi arobryn, ran yn hynny gan mai iddo fe y syrthiodd y dasg o roi trefn ar y gyfrol. Wedi'r cyfan, Wyn yw pencampwr priod-ddulliau'r pridd, ar gownt ei gefndir sydd yr un mor ddwfwn yn y byd amaeth ag yw yn y byd rygbi. Os nad yn ddwy daten o'r un rhych, yn sicr mae'r ddau yn ddwy daten o ddwy rych gyferbyn 'i gilydd. Ar ryw olwg mae'r teitl yn gamarweiniol. Rhyw segura jacs yw ystyr 'dala'r slac yn dynn'. Ond mae'n ymateb cyson ei ddefnydd; eto, yn nhafodiaith yr ardal synno'r gwydn a'r gweithgar ym mro'r Preselau yn gweld diben mewn bragan ei hun. Pa ddiben sydd mewn hongian yr olch gyfan ar lein yr ardd ffrynt? Yr un modd, nid yw'r gynghanedd yn tynnu sylw ati hi'i hun yng ngherdd gyfarch y prifardd Ceri Wyn. Os oes yna ruddin yn perthyn i ffyddloniaid cyfoes y Boncath Inn, mawr obeithiaf na fyddan nhw fawr o dro yn gosod y gerdd ar eu cof. O wneud hynny, hwyrach y deffrir yn eu plith y cof am y penillion hynny y byddai Jac Cilrhue, tad-cu John, yn eu gweithio i gofnodi troeon trwstan yr ardal. Dengys Gerald Davies yn ei gyflwyniad yntau ei fod wedi gweld gogoniant 'Cilrhue' a'r fro. Hefin Wyn Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

Aorrng

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List