|
|
|||
|
||||
OverviewA volume offering an introduction to one of the most colourful characters of Welsh literature, and celebrating the contribution of one of the most dazzling poets of the 14th century. We are drawn closer to the life and times of Dafydd ap Gwilym through paraphrases of his own words and the visual content of the book. Full Product DetailsAuthor: Gwyn ThomasPublisher: Cyhoeddiadau'r Gair Imprint: Cyhoeddiadau'r Gair ISBN: 9781906396572ISBN 10: 1906396574 Pages: 144 Publication Date: 28 March 2013 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsReviewsAmcan y gyfrol fach hon yw cyflwyno barddoniaeth Dafydd ap Gwilym i ddarllenwyr newydd, a does neb gwell i wneud hynny na Gwyn Thomas. Mae gan Gwyn ddawn arbennig i egluro materion dyrys yn gryno a dod llenyddiaeth y gorffennol yn fyw trwy ddal ar hanfod y profiad dynol digyfnewid. Ac mae ei arddull anffurfiol, rwydd yn creur argraff o lais yn sgwrsion hamddenol, gan ddenur darllenydd i rannu ei fwynhad. Maer llyfr hwn yn fwy na darllenadwy; mae bron yn glywadwy. Ac mae gwedd weledol y llyfr yn ddeniadol iawn hefyd. Mae golygydd Cyhoeddiadau Barddas, Elena Gruffudd, ar dylunydd Olwen Fowler yn haeddu clod am greu diwyg hardd syn cydweddun berffaith r pwnc. Cynhwysir nifer o luniau bach o lawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru trwy gynllun DigiDo, ac maer rhain yn addas iawn i gyd-fynd cherddi sydd ag elfen weledol mor gryf. Addas hefyd ywr pwyslais ar adnabod y gwr yn y cerddi, gan mair argraff o bersonoliaeth y bardd ywr peth mwyaf deniadol am gerddi Dafydd ap Gwilym i lawer o ddarllenwyr modern. Fen hatgoffir yn gyson, ac yn hollol briodol, mai persona bwriadus a welir ac nid crwr y cerddi ei hun, ond gyda hynny o rybudd mae Gwyn yn ei elfen yn adnabod a chyflwynor gwr difyr hwn inni. Crynhoir yr ychydig dystiolaeth sydd iw chael am fywyd Dafydd, ac yna trafodir nifer oi gerddi mwyaf nodedig. Ni ragdybir unrhyw wybodaeth am farddoniaeth y cyfnod, ac mae aralleiriadau yn gymorth i ddarllenwyr ddeall pob dyfyniad. Efallai mai cyfrinach llwyddiant y gyfrol hon ywr ffordd y mae Gwyn Thomas yn ymuniaethu Dafydd ap Gwilym fel bardd; maer un hiwmor direidus ar un dilit mewn chwarae efo geiriau iw gweld yng ngwaith y ddau fardd, ar un blas ar fywyd wedii finiogi gan ymwybyddiaeth oi freuder. Mawr obeithiaf mair gyntaf mewn cyfres fydd hon, ac y cawn gyfrolau tebyg ar rai o fawrion eraill y traddodiad barddol, ond anodd fydd dod o hyd i awdur a gwrthrych syn gweddu cystal iw gilydd. Dafydd Johnston Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |