Cyn Torri'r Llinyn Arian

Author:   William Owen
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:  

9781845276959


Pages:   136
Publication Date:   16 July 2019
Format:   Paperback
Availability:   To order   Availability explained
Stock availability from the supplier is unknown. We will order it for you and ship this item to you once it is received by us.

Our Price $19.41 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Cyn Torri'r Llinyn Arian


Add your own review!

Overview

Another collection of diverse and entertaining essays by a master craftsman of both language and style. Cyn Torri'r Llinyn Arian will provide food for thought as well together with raising smiles. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Full Product Details

Author:   William Owen
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:   Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:  

9781845276959


ISBN 10:   1845276957
Pages:   136
Publication Date:   16 July 2019
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   To order   Availability explained
Stock availability from the supplier is unknown. We will order it for you and ship this item to you once it is received by us.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Cynhelir lansiad y gyfrol yn FESTRI CAPEL Y PORTH, PORTHMADOG Nos Wener, 19 Gorffennaf am 7.30 yh yng nghwmni gwesteion arbennig. Darperir paned - CROESO I BAWB -- Gwasg Carreg Gwalch


Cynhelir lansiad y gyfrol yn FESTRI CAPEL Y PORTH, PORTHMADOG Nos Wener, 19 Gorffennaf am 7.30 yh yng nghwmni gwesteion arbennig. Darperir paned - CROESO I BAWB -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Cyfrolau y byddaf yn dychwelyd atynt yn aml yw Ysgrifau T. H. Parry-Williams (1943) a Cyn Oeri'r Gwaed gan Islwyn Ffowc Elis (1952). Ie, ysgrifau, ffurf lenyddol nad yw'n rhyw ffasiynol erbyn heddiw, a throdd yr ysgrif yn chwaer fach i'r hunangofiant a'r nofel. Diolch, felly, am ffyddloniaid fel William Owen. Mae rhan o froliant Annes Glynn yn crynhoi'n berffaith nodweddion llenyddol yr ysgrifwr toreithiog hwn. Disgrifia ragflaenydd i'r gyfrol hon, Can yr Alarch, fel un 'lle nad oes unrhyw grac ieithyddol i faglu darllenydd a lle mae'r iaith yn naturiol goeth'. Amen, meddaf innau. Cawn yn y gyfrol ddiweddaraf hon 25 o ysgrifau wedi eu cribinio o wahanol gylchgronau. Mae'r themau'n amrywio'n fawr ac yn eu plith mae ambell destun annisgwyl. Mae'n agor gyda theyrnged gynnes, nid i unrhyw berson ond yn hytrach i'r hen fwrdd bach y bydd yn pwyso arno wrth iddo osod ei eiriau ar bapur. Mae'n digwydd taro wedyn ar wraig a brynodd un o'i lyfrau cynnar am 'wan and thri'! Nid dyna'r unig fargen. Mewn siop elusen yn Llandeilo mae'n canfod stoc o lyfrau Cymraeg ail-law sy'n gwerthu am 'fifty p each', gyda'r siopwr yn ei annog, 'Have a decko, Guv ...' Mae'n gwneud, wrth gwrs. A dyma un o gyfrinachau mawr yr awdur hwn i mi, sef dod a'r anghyffredin i mewn i sefyllfaoedd cwbl gyffredin. Ac mae'r themau mor amrywiol. Yn yr ysgrif, 'Llofnod Plymar Preston', er enghraifft, y gwrthrych dan sylw yw neb llai na'r pel-droediwr chwedlonol Tom Finney. Meddyliwch wedyn am gael dau mor wahanol ag Edvard Grieg a Goronwy Owen mewn ysgrifau cyfochrog. Mewn ysgrif arall cawn foliant i 'ddyfais syfrdanol newydd' a dderbyniodd yr awdur yn ei hosan Nadolig pan oedd yn hogyn. Beth yw hi? Beiro! Rhodd berffaith i ddarpar awdur! Yma ac acw cawn rannu cyfrinachau. Fel Dai Llanilar, nid yw'n hoffi cathod. Felly hefyd ei deimladau tuag at Tesco. Fel finnau, swynwyd ef gan nofel enwog Dumas, La Tulipe Noire ('Y Tiwlip Du'). Mae clywed can Sbardun, 'Hiraeth am y Glaw' ar y radio wedyn yn ei gludo i wlad Yeats, fy hoff fardd. Mewn oes o Gymraeg gyhoeddus sathredig daw ysgrifau William Owen i'n suo fel chwaon o awelon iach. Mae ei arddull yn llifo o frawddeg i frawddeg, o ysgrif i ysgrif. Dyma'r Gymraeg fel y dylai gael ei hysgrifennu - ac mewn byd perffaith, ei siarad. Boed iddo barhau i ymweld yn rheolaidd a hen fwrdd y gegin, magwrfa cymaint o geinion llenyddol. -- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

Aorrng

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List