|
|
|||
|
||||
OverviewAn introduction to our early Welsh manuscrips with contributions from sixteen contemporary poets. The Mabinogi, Arthur, Taliesin, Dafydd ap Gwilym ...each and every one of them are well known in Wales and beyond. But when did these names first appear in books, and indeed in which books, and why? Full Product DetailsAuthor: Eurig SalisburyPublisher: Cyhoeddiadau Barddas Imprint: Cyhoeddiadau Barddas ISBN: 9781906396671ISBN 10: 1906396671 Pages: 128 Publication Date: 01 March 2014 Audience: College/higher education , Postgraduate, Research & Scholarly Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsFe wyddwn i lawer mwy am Llyfr Mawr y Plant nag am Lyfr Du Caerfyrddin. Wrth edrych yn l, dwrdiaf fy hun am fyw fel ir tan fwced. Ond nawr fe wn i lawer yn fwy am y Llyfr Du, ynghyd rhai on trysorau llenyddol eraill. Ymatebion a geir yma gan feirdd cyfoes i Lyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Aneirin, Llawysgrif Hendregadredd, Llyfr Taliesin, Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest. Yn ei gyflwyniad, ar l dyfynnu Morgan Llwyd, a ddisgrifiodd lyfrau fel ffynhonnau, cyfeiria Eurig Salisbury at y llawysgrifau dan sylw fel Chwe tharddell ddiwylliannol a dyfodd yn rhyferthwy, ... eu dyfroedd yn llifon llafar hyd heddiw. Nod y gyfrol, meddai, yw tywys cynulleidfaoedd newydd tuag at yr hen ryfeddodau hyn. Diolch am yr arweiniad. Mae hwn yn nod gwerth chweil, gan mai syniad llawer ohonom am y llawysgrifau hyn yw memrynaun hel llwch ar silffoedd tywyll, anhygyrch. Creiriau amgueddfaol. Ond gwerth y llawysgrifau, medd Eurig, yw eu bod nhwn dal i fod yn berthnasol heddiw. Maent, meddai, yn ogofu hud o drysorau. Cloddir y trysorau hynny gan bymtheg o feirdd cyfoes. Mae ir gair buarth yn y teitl arwyddocd gan mai un oi ystyron yn Llyfr Taliesin oedd man ymgynnull neu hafan. Maer penodau syn cyfeirio at y chwe llawysgrif yn gyfuniadau o ffeithiau hanesyddol a chefndirol clir a syml ynghyd cherddi perthnasol gan rai or beirdd. Dywedir, er enghraifft, am Lawysgrif Hendregadredd mai yn Abaty Ystrad Fflur, lai na milltir om cartref, y cofnodwyd y fersiwn Lladin ac un or fersiynau Cymraeg. Teimlaf yn freintiedig! Ond peidiwch meddwl mai rhyw gyfraniad sych, ysgolheigaidd a geir yma. Trowch at farwnad Gruffudd Owen i Pom ac fech heriaf i ddal heb chwerthin. Bochdew, gyda llaw, oedd Pom (19911996). A llwydda Eurig Salisbury i dynnu cymhariaeth rhwng Arthur a chlwb nos Pier Pressure yn Aberystwyth. Ac wrth drafod y Llyfr Coch mae Twm Morys yn cymharu ei chwilota ymhlith geiriau tywyll busnesa Miss Marple. Ni ddylwn gloir adolygiad hwn heb gyfeiriad at ddiwyg y gyfrol. Mae hin odidog o hardd. Sylwaf mair dylunydd yw Olwen Fowler. Haedda gael ei chydnabod ymhlith y cyfranwyr disglair eraill, rhy niferus iw henwi yma. Lyn Ebenezer Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |