Antur I'r Eithaf: Atgofion Byw Ar y Dibyn

Author:   Eric Jones
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:  

9781845275129


Pages:   360
Publication Date:   04 November 2014
Format:   Paperback
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $23.29 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Antur I'r Eithaf: Atgofion Byw Ar y Dibyn


Add your own review!

Overview

The autobiography of the adventurer and climber Eric Jones, the farmer's son from Clwyd who climbed some of the world's highest peaks, displaying nerves of steel while facing many challenges.

Full Product Details

Author:   Eric Jones
Publisher:   Gwasg Carreg Gwalch
Imprint:   Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:  

9781845275129


ISBN 10:   1845275128
Pages:   360
Publication Date:   04 November 2014
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.
Language:   Welsh

Table of Contents

Reviews

Glywsoch chi hanes yr hogyn o Frynsaithmarchog a neidiodd oddi ar ben y rhaeadr uchaf yn y byd, neidio i un o'r ogofu dyfnaf, oddi ar bontydd, clogwyni ac adeiladau? Ardderchog o beth oedd penderfyniad dringwr mynyddoedd pennaf Cymru, ac yntau bellach yn 78 mlwydd oed ac yn rhedeg caffi poblogaidd yn Nhremadog, i lunio cyfrol swmpus o atgofion hynod ddifyr a darllenadwy. Treuliodd flynyddoedd lawer yn paratoi'r gyfrol, nid i dynnu sylw at ei gampau neilltuol niferus ef ei hun, ond i'w rhoi ar gof a chadw, a'u cyflwyno i'w ddwy ferch, Rebecca a Keira. Cawn hanes ei fagwraeth ef a'i ddwy chwaer ar fferm Felin Uchaf, Cynwyd, sir Ddinbych, yr addysg a gafodd, a'r cyfnod o ddwy flynedd a dreuliodd yn yr Heddlu Milwrol, lle dyfodd 'o fod yn hogyn cefn gwlad diniwed i fod yn ddyn gwydn, disgybledig'. Ar l iddo ddychwelyd adref, cafodd Eric swydd yn ffatri Courtaulds yn y Fflint, ac yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd ddringo o ddifrif yng nghwmni cyd-weithiwr iddo yn y ffatri. Bu'r ddau yn dysgu dringo yn Eryri cyn i Eric ei hun fentro dringo'r 'mynyddoedd mawr' yn y Dolomiti a'r Alpau gorllewinol yng nghwmni gwr o'r enw Cliff Phillips. Cafodd Eric ambell ddamwain, a bu bron cholli ei fywyd ar fwy nag un achlysur, ond drwy lwc ryfeddol fe'i harbedwyd. Collodd nifer o gyfeillion agos mewn damweiniau enbyd o greulon ar y mynyddoedd mawr. Mae'n debyg mai ei gamp bennaf yn ystod y cyfnod cynnar hwn oedd dringo Pilar Bonatti yn yr Alpau, ac Eric Jones oedd yr ail ddringwr erioed i gyflawni'r weithred hynod beryglus ac arswydus hon. Ond aeth Eric Jones hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol. Llwyddodd i ddringo mynydd yr Eiger yn y Swistir, ac yna ym 1972 gorchfygodd fynydd y Matterhorn ar yr wyneb gogleddol drwgenwog yng nghwmni eraill yn gyntaf, ac yna ar ei ben ei hun. Ym 1978 Eric Jones oedd y Cymro (a'r Prydeiniwr) cyntaf i ddringo wyneb gogleddol yr Eiger ar ei ben ei hun gweithred arbennig o ddewr, o gofio i nifer o ddringwyr mynyddoedd rhyfeddol o brofiadol gael eu lladd yno dros y blynyddoedd. Yn dilyn y gamp eithriadol hon, mentrodd i dde America a bu'n dringo ym Mhatagonia, ardal a fu'n atynfa arbennig iddo ers blynyddoedd lawer. Ond, fel yn achos sawl dringwr uchelgeisiol arall, Everest oedd y brif her i Eric Jones, ond bu aml i gam yn l a phroblemau dybryd cyn iddo sylweddoli na fyddai modd iddo gyrraedd y copa. Nid oedd y math yma o ddringo yn apelio'n arbennig at yr awdur, ond roedd yr ardal yn bendant yn denu. Dychwelodd yno drachefn i falwnio ym 1989 a 1990, a bu'n dringo ym mynyddoedd yr Himalaya ar chwe achlysur gwahanol. Ond, yn dilyn yr holl anturion, rhaid oedd dychwelyd adref c ennill bywoliaeth mewn rhyw fodd. Cawn ei hanes yn gyntaf yn sefydlu busnes paentio a phapuro yn Nhremadog, gan sicrhau cyfle i ddringo yn ei amser hamdden. Agorodd gaffi ym mis Mai 1979, a bu hwn yn fodd iddo gyfarfod nifer fawr o wersyllwyr ac ymwelwyr. Cawn hanes yr awdur yn mwynhau cymryd rhan mewn dwy ffilm, sef Five Days One Summer a Scream for Stone. Yn ogystal, magodd ddiddordebau newydd megis awyrblymio, paragleiddio a neidio oddi ar bontydd uchel. Ac ym 1996 cafodd gyfle anhygoel i ymweld Phegwn y Gogledd, gyda'r BBC a HTV Cymru yn gyfrifol am y costau sylweddol, a thair blynedd yn l daeth cyfle iddo hedfan i brif wersyll mynydd Everest unwaith yn rhagor. Cawn ddarllen am y cyfan o'r anturiaethau anhygoel hyn mewn cyfrol drwchus, fanwl, hawdd ei darllen a'i gwerthfawrogi. Cewch bleser mawr wrth ddarllen am fywyd un a fu'n byw ar y dibyn yn llythrennol. J. Graham Jones Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

Aorrng

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List