Amser Drwg Fel Heddiw

Author:   Iwan Meical Jones
Publisher:   Y Lolfa
ISBN:  

9781800995680


Pages:   320
Publication Date:   06 March 2024
Format:   Paperback
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $25.85 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Amser Drwg Fel Heddiw


Add your own review!

Overview

The Second World War brought great pressures on the life of Llanrwst GP, Dr Lewis Huws, mainly because of his own mistakes in his dealings with his friends and lovers. This novel tracks his story throughout the war. Difficult experiences force him to change his mind about some aspects of his life and gradually, his life changes for the better. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Full Product Details

Author:   Iwan Meical Jones
Publisher:   Y Lolfa
Imprint:   Y Lolfa
Dimensions:   Width: 13.50cm , Height: 1.50cm , Length: 21.00cm
ISBN:  

9781800995680


ISBN 10:   1800995687
Pages:   320
Publication Date:   06 March 2024
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Table of Contents

Reviews

Llanrwst adeg yr Ail Ryfel Byd yw lleoliad nofel gyntaf Iwan Meical Jones, Amser Drwg fel Heddiw. Mae gan unrhyw awdur sy’n sgwennu am gyfnod hanesyddol ddwy broblem. Yn gyntaf rhaid ymchwilio’n ofalus i greu darlun clir o’r cyfnod. O’r dechrau gwelir bod yr agwedd hanesyddol yn gredadwy, yn bennaf trwy gyflwyno ffeithiau a manylion sydd bellach yn angof niwlog. Beth am y rheolau dogni bwyd, cyfarwyddiadau’r blacowt, y cyfyngiadau ar deithio a’r gosb gyfreithiol o dorri’r rheolau? Er iddo wneud ei waith cartref yn drylwyr, mae’r awdur yn taro’r balans cywir gan osgoi’r demtasiwn i orddangos ei wybodaeth, temtasiwn a allai arwain at lethu ac arafu rhediad y stori. Yr ail broblem yw gosod y cymeriadau yn y cyfnod, a bellach nid ymchwil sydd ar waith ond dychymyg. Sut oedd trigolion Llanrwst a’r fro yn ymateb i heriau’r rhyfel? Efallai nad oedd yno fomio nac ymosodiadau uniongyrchol, ond roedd bywyd wedi newid a’r trigolion yn eu tro yn gorfod addasu eu harferion a phatrwm byw yn sgil y newidiadau: ifaciwis yn cyrraedd, consgripsiwn, pentrefwyr na theithiodd ymhellach na Llandudno yn mynd i ben draw’r byd, rhai yn dychwelyd, rhai yn marw ar faes y gad. Mae’r cyfan yno ac wedi’u gwau at ei gilydd yn grefftus. Fel ymhob tref mae 'na arweinwyr – meddyg, plismon, gweinidog ac athrawes – a’u hymatebion nhw i gyfnod y rhyfel sy’n gyrru’r plot. Pwysir y tensiynau bob dydd yn erbyn egwyddorion a dyheadau gwrthwynebwyr cydwybodol, yr ychydig rai a wrthododd enlistio, gan ddioddef sen a gwawd am eu safiad. Mae moeseg yr oes yn ganolog i’r stori, moeseg oedd yn pylu'n raddol. Wedi’r rhyfel, nid oedd modd dychwelyd at esmwythdra’r gorffennol. Ni fyddai Llanrwst, na sawl llan arall, fyth yr un fath. Y prif gymeriad yw Dr Lewis Huws, meddyg y dref. Wrth ddarllen amdano down i sylweddoli beth oedd gofynion cynnal practis cyn sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol: cleifion yn talu i weld y doctor, talu am foddion a thabledi, ac yn aml y doctor ei hun yn cymysgu’r ffisig – y ffisig pinc bondigrybwyll a roddai, o bosib, wellhad corfforol ac yn bwysicach, esmwythder meddyliol. Apphia Davies yw howscipar Lewis, dynes â’i bryd ar drefnu bywyd ei bòs. Ac mae gwir angen trefn arno. Mae Lewis Huws yn berson simsan na all wneud penderfyniad ar ei grogi. Weithiau mae’r ffaeledd yn ddibwys – pa fath o wy i frecwast – ac weithiau yn ddifrifol megis canlyn a dewis cymar. Yn eironig, ei wendid ef sy’n rhoi cryfder i’r nofel ac mae agwedd ddi-dda, ddi-ddrwg y meddyg yn rhoi sawl plwc annisgwyl i’r naratif. Yn ei hanfod, nofel am bobl a’u troeon trwstan yw hon. Fel mae’r awdur ei hun yn cydnabod, ‘gyda’i gilydd neu fel unigolion mynnai pobl wneud pethau ffôl a dychrynllyd dro ar ôl tro’. Gwir y gair. Cyfoethogir y dweud am fod Iwan Meical Jones yn portreadu bro ei febyd, nodwedd sy’n rhoi naws agos-atoch-chi i’r stori. -- Geraint Evans @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

Aorrng

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List