|
|
|||
|
||||
OverviewFull Product DetailsAuthor: Michael Coleman , Bethan Hughes , Elin MeekPublisher: Rily Publications Ltd Imprint: Rily Publications Ltd ISBN: 9781904357247ISBN 10: 1904357245 Pages: 192 Publication Date: 25 November 2010 Recommended Age: 13 years Audience: Primary & secondary/elementary & high school , Educational: Primary & Secondary Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsStori syn ergydion galed yw hon yn l y broliant ar gefn y gyfrol, ac mae hynnyn sicr yn wir. Maer teitl yn cyfeirio at y llofnod syn cael ei adael gan artistiaid graffiti, ac ir byd hwnnw yr awn yng nghwmni Pete a Motto. Dyma stori am gyfeillgarwch ac am yr awydd i berthyn a bod yn rhan o grwp. Peter yw'r llefarydd, bachgen gydag atal dweud arno syn eilunaddoli Motto, a hwnnw yn ei dro'n manteisio ar ei ddiniweidrwydd. Mae Motton dyheu am fod yn enwog, gan beintio graffiti ar do bws ysgol er mwyn cael sylw. Yn fuan, mae Pete ac yntau mewn trafferthion am godi gwrychyn gang graffiti lleol. Maer nofel yn llawn cymeriadau cymhleth, a diddorol, ac mae Pete a Motton gymeriadau byw iawn. Mae eu gobeithion, eu dyheadau a'u hofnaun denu cydymdeimlad a rhwystredigaeth y darllenydd. Cawn wybod ar gychwyn y llyfr am ddamwain erchyll, a datgelir yr hanes yn raddol. Mae na nifer o droeon annisgwyl a difyr yn y stori hon cyn iddi gyrraedd ei diweddglo chwerw-felys. Mae byd y nofel hon yn anodd a bygythiol ar adegau byd o ladrata, ymosodiadau a dial, byd dieithr iawn i'r mwyafrif ohonom ni, ddarllenwyr. Ac oni ddylai nofel dda gyflwyno darllenwyr i'r anghyfarwydd? Cerian Arianrhod Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |