Meistri'r Awen

Author:   Modern Welsh Publications Ltd ,  D. Ben Rees
Publisher:   Cyhoeddiadau Modern Cymreig/Modern Welsh Publications
ISBN:  

9781739855819


Pages:   238
Publication Date:   14 November 2022
Format:   Hardback
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Our Price $38.81 Quantity:  
Add to Cart

Share |

Meistri'r Awen


Add your own review!

Overview

The motivation for Cyhoeddiadau Modern Cymreig to publish this handsome volume was the good reception to Dyrnaid o Awduron Cyfoes almost half a century ago. Each person mentioned in this volume are of the generation of that bygone age namely: Iorwerth Cyfeiliog Peate, B. T. Hopkins, John Evans (Sion Ifân), Caradog Prichard, Einion Evans and Bedwyr Lewis Jones. -- Cyngor Llyfrau Cymru

Full Product Details

Author:   Modern Welsh Publications Ltd ,  D. Ben Rees
Publisher:   Cyhoeddiadau Modern Cymreig/Modern Welsh Publications
Imprint:   Modern Welsh Publications Ltd
Dimensions:   Width: 21.20cm , Height: 1.50cm , Length: 29.70cm
ISBN:  

9781739855819


ISBN 10:   1739855817
Pages:   238
Publication Date:   14 November 2022
Audience:   General/trade ,  General
Format:   Hardback
Publisher's Status:   Active
Availability:   In stock   Availability explained
We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately.

Table of Contents

Reviews

Felly dyma gyfle i'r cenhedlaethau o ddarllenwyr cyfoes, yr ifanc, canol oed a'r hynafgwyr ddod i gydnabod y chwech meistr a gaiff glod a chyflwyniad gan bobl sydd yn edmygwn ohonynt Croesewir rhai sydd yn weddol dieithr y tri bardd godidog Ben T Hopkins John Evans a Einion Evans, y cawr Dr Iorwerth C Peate, meistr yr iaith Bedwyr Lewis Jones a nofelydd gorau ein cenedl a bardd medrus Caradog Prichard. Edmygwyr y cyfranwyr am y wledd, a gwyddom y caiff y darllenwyr bleser a mwynhad o fewn cloriau y gyfrol hon. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Modern / Modern Welsh Publications Ltd. Dyma beth yw perl o gyfrol. Chwe ysgrif dreiddgar ar chwe awdur o’r radd flaenaf, wedi eu dewis yn ofalus yn rhinwedd eu cyfraniad i ddiwylliant Cymru a’r ffaith eu bod yn debygol heddiw o fod ‘yn ddieithr i’r rhai sydd yn ddeunaw mlwydd oed’. Wedi’r cyfan, bwriad y golygydd Ben Rees yw ‘cadw’n fyw gof am brifeirdd a llenorion Cymraeg’. Rhoes i ni rhwng y cloriau wledd o ddeunydd difyr a gwirioneddol ddadlennol ar y chwe awdur dan sylw, sef Iorwerth Peate (ysgrif R. Alun Evans); B. T. Hopkins (ysgrif Eirian Jones); John Evans (Siôn Ifan) (ysgrif Aled Lewis Evans); Caradog Prichard (ysgrif D. Ben Rees); Einion Evans (ysgrif Norman Closs Parry); a Bedwyr Lewis Jones (ysgrif Patricia Williams). Y mae i’r chwech eu rhagoriaethau amlwg, ac amhosib fyddai gwneud cyfiawnder â chynnwys pob un mewn adolygiad cryno fel hwn. Felly, ar gyfrif fy niddordeb personol innau – a dim mwy na hynny – penderfynais graffu ar y bennod o waith y golygydd ei hun ar y nofelydd a’r bardd Caradog Prichard. Fel newyddiadurwr – ac alltud o Gymro yn Llundain – y mae gen i berspectif arbennig ar stori ryfeddol Caradog Prichard, yn union fel sydd gan Ben Rees, yn rhinwedd ei alltudiaeth faith yntau fel Cymro yn Lerpwl. Daw Ben yn ôl at thema gyfoethog yr alltud yn gyson yn ei ddadansoddiad o gynnyrch llenyddol Caradog, ac o’r cymhlethdodau tywyll a nodweddai ei fywyd. Ond ysgrif yw hon ar waith llenyddol Caradog Prichard, nid disgrifiad o’i fywyd lliwgar. Ceir ynddi gyfeiriadau pryfoclyd at ei wraig Mattie a’i ferch Mari, ond er tegwch nid ysgrif ar stori a bywyd teuluol sydd dan sylw. Y deyrnged orau i’w thalu i Ben yw dweud bod yr ysgrif yn gyflwyniad ardderchog i waith llenyddol Caradog Prichard, gan esbonio’r prif ddylanwadau ar yr awdur o ddyddiau ei fachgendod ym Methesda hyd ddyddiau ei henaint yn Llundain. Cydblethir sawl thema anodd yma, gan gynnwys salwch meddwl mam Caradog, ei hiselder llethol a’i thraddodi i ysbyty’r meddwl, iselder Caradog ei hun, ei alcoholiaeth yntau a’r effaith andwyol ar ei deulu, a thuedd Caradog at hunangasineb ar gyfrif ei benderfyniad i symud o Gymru a gweithio yn Llundain. Ochr yn ochr â’r elfennau negyddol y mae Ben yn llwyddo i gynnig dehongliad bywiog o weithiau llenyddol Caradog, gan roi lle amlwg i’r nofel unigryw Un Nos Ola Leuad (1961), un o glasuron llenyddiaeth Ewrop yn yr ugeinfed ganrif. Gosodir honno yn ei chyd-destun cymdeithasol a seicolegol, gan danlinellu natur arloesol y nofel – o ran iaith a chynnwys a strwythur – ym myd llenyddiaeth Gymraeg. Y mae i hunangofiant Caradog, Afal Drwg Adda (1973), rinweddau tebyg o ran arddull a phlaendra. Teg yw dweud, efallai, fod Un Nos Ola Leuad yn dal yn reit gyfarwydd dros drigain mlynedd ar ôl ei chyhoeddi, diolch i’r cyfieithiadau da a gafwyd ohoni, a’r penderfyniad gan Penguin i’w chyhoeddi ym 1999. Nofelydd disglair, felly, oedd Caradog Prichard. Y peryg mawr, gan hynny, yw anghofio ei fod wedi ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith yn olynol (1927, 1928, 1929) a’r Gadair ym 1962. Camp Ben yn yr ysgrif hon yw cynnig gwerthfawrogiad cryno o waith barddonol Caradog Prichard, ac fe ellir dadlau bod y gamp honno yn bwysicach o lawer na’r dadansoddiad o’r nofel enwog. Erbyn heddiw, barddoniaeth Caradog Prichard sydd mewn perygl o fynd yn angof, nid ei waith rhyddiaith. O achos hynny, dylem ddiolch i Ben am gadw gwaith barddonol Caradog Prichard yng ngolwg y cyhoedd, ac am danlinellu talent anghyffredin y prifardd o Fethesda. Dr Huw Edwards, Llundain Mae’n bwysig rhannu cyfoeth un genhedlaeth efo’r genhedlaeth sydd yn dilyn. Dyna bwrpas y gyfrol hon, yn ôl y golygydd yn ei gyflwyniad. Heblaw rhoi sylw i’r cewri hyn i’r genhedlaeth bresennol, y mae’n gwneud cymwynas â ’nghenedlaeth i trwy ein hatgoffa o gyfraniad amhrisiadwy y cyfeillion hyn yn eu dydd. Ar ddechrau’r gyfrol mae Simon Brooks yn datgan mai gwir werth y gyfrol hon yw ei dadansoddiad o gymdeithas nad yw’n bod bellach, y gymdeithas werinol. Cenhadon y werin, meddai, oedd Bedwyr Lewis Jones ac Iorwerth Cyfeiliog Peate, a thri oedd yn cynnal y gwerthoedd gwerinol hynny oedd John Evans, B.T. Hopkins ac Einion Evans. Haera fod Caradog Prichard yn ei glasur o nofel Un Nos Ola Leuad wedi darlunio anoddefgarwch y gymdeithas werinol Gymraeg. Yn wahanol i’r pump arall mae enw Caradog Prichard yn parhau’n amlwg iawn, gyda sawl cyflwyniad dramatig o’i nofel Un Nos Ola Leuad, y nofel orau yn y Gymraeg, medd y gwybodusion. Bu cyflwyniad dramatig ohoni ar daith ynghyd ag opera yn seiliedig arni gan Gareth Glyn. Fe ymddengys yn y cwricwlwm cenedlaethol o dro i dro. Ond mae Dr D. Ben Rees wedi tynnu ein sylw yn haeddiannol at y gwaith aruthrol a wnaeth y newyddiadurwr athrylithgar Caradog Prichard fel bardd (ennill y goron dair blynedd yn olynol gyda’i bryddestau, gydag un arall yn deilwng ond heb fod ar y testun, ac fel llenor sawl cyfrol ddadlennol heblaw ei nofel). Hawdd yw cytuno mai llenor ydoedd yn bennaf. Bu’r seilam, streic fawr y Penrhyn, Diwygiad Evan Roberts, yr Eglwys Wladol, a thlodi yn allweddol i’w holl waith. Portreadir Iorwerth Cyfeiliog Peate gan R. Alun Evans, y ddau wedi eu magu yn Llanbryn-mair. Cyflwynir i ni gymeriad mawr, hynod ei gyfraniad i Gymru, ond enigma os bu un erioed. Dyma genedlaetholwr, heddychwr, bardd, llenor, beirniad, hanesydd yr hen ffordd Gymreig o fyw, yn ogystal ag arloeswr a sefydlodd yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan. Disgrifir ef fel cymeriad hynaws ond eto yr oedd yn gallu bod yn gymeriad cwbwl wahanol. Bardd-amaethwr gwlad hunanddiwylliedig o Ledrod, Sir Aberteifi a anfarwolwyd gan ei gywydd ‘Rhoshelyg’ oedd B. T. Hopkins. Eiddo Eirian Jones, un o’r un fro yw’r portread ohono. Dengys fod ei athrylith yn ehangach na’r cywydd gan iddo gyhoeddi ddwy gyfrol boblogaidd. Gwerinwr ydoedd, yn ddyledus i Prosser Rhys a J. M. Edwards, ei athrawon barddol, a byddai’n seiadu efo mawrion llên. Ystyrir ei feirniadaeth ar y delyneg yn yr Eisteddfod Genedlaethol (1938) yn glasur. Roedd yn flaenor ac yn bregethwr lleyg a oedd yn gyfarwydd â Kant, yn genedlaetholwr ac yn rhyddfrydol ei agwedd – gwahoddodd Tom Nefyn i bregethu ac yntau wedi ei wahardd gan y Cyfundeb ar y pryd. Cawn bortread o John Evans (Siôn Ifan) gan ei ŵyr Aled Lewis Evans. Galwyd John yn “Enaid mawr gwerinol”, gan Mathonwy Hughes mewn englyn ar garreg ei fedd. Enillodd y Gadair ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfunai ddwyster a digrifwch. Bu dan ddylwanad Golau Egryn, un o ddigwyddiadau rhyfeddol Diwygiad Evan Roberts. Heblaw bod yn fardd y dwys a’r doniol roedd hefyd yn brifathro, yn feuryn, darlledwr cyson, darlithydd, gwenynwr, englynwr, pregethwr cynorthwyol, beirniad, arweinydd eisteddfodau ac roedd yn cael ei ystyried yn Frenin y Babell Lên ar sail ei hiwmor! Cawn bortread o Einion Evans gan Norman C. Parry, y ddau o gefndir cyffelyb. Bu un yn löwr yn Y Parlwr Du cyn mynd yn llyfrgellydd, a’r llall wedi ei fagu ym mro’r chwarel. Roedd Einion yn athro barddol i Norman. Y gwaith ddaeth ag Einion i sylw oedd ei awdl ‘Yr Ynys’, a hefyd ei gywydd i Ennis ei ferch. Mae’r geiriau “Dyn biau cadwyn bywyd” yn dweud y cyfan am ei alar yn y gweithiau hyn. Ysgrifennodd hunangofiant a chyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi a Blodeugerddi. Roedd hefyd yn flaenor, yn bregethwr lleyg, ac yn arweinydd aelwyd, a dyfynnir yma rai o’i emynau ysgytwol. Roedd yn sosialydd naturiol, yn ddychanwr deifiol ac yn gymeriad cymlheth a chroendenau ar adegau. Canodd i gymeriadau Daniel Owen, ond bu un anffawd argraffu wrth gyfeirio at Thomas Bartley ac wrth ddyfynnu’r cywydd iddo. Yr hyn a geir yw “twbi shwr” yn hytrach na “tw bi shŵar” y mae’r odl yn y cywydd yn gofyn amdano. Monwysyn oedd Bedwyr Lewis Jones er mai yn Wrecsam y ganed ef. Awdur y portread yw Patricia Williams, un o Wrecsam yn wreiddiol ac un a fu yn gydefrydydd ag ef. Cafodd yrfa ddisglair fel myfyriwr cyn cyrraedd pinacl ei yrfa fel Athro yn yr Adran Gymraeg ym Mangor. Sefydlodd gylchgrawn llenyddol Yr Arloeswr gydag R. Gerallt Jones pan nad oedd cylchgrawn o’i fath i’w gael ar y pryd. Ychwanegodd fyd y ffilmiau at y celfyddydau traddodiadol. Roedd yn ddyn o flaen ei oes ac yn weithiwr called. Roedd ei astudiaethau llenyddol yn dangos gwybodaeth eang â thrylwyredd ei ymchwil. Meddai ddawn i ddehongli cerddi ac roedd yn dditectif geiriau a gyhoeddodd sawl cyfrol. Sefydlwyd Canolfan Bedwyr ym Mangor o barch i’w gyfraniad hynod. Mae cynllun y clawr gan Siôn Wyn Morris yn denu’r llygad yn syth gyda’i gludwaith o luniau’r awduron yn ogystal â’r cyfranwyr. Ceir lluniau hefyd o fewn y gyfrol ei hun gan ychwanegu at ei gwerth. Ceir bywgraffiad o’r awduron a llyfryddiaeth fuddiol ar derfyn y gyfrol yn cynnwys rhestr o’u gwaith yn ogystal â rhestr o lyfrau yn trafod eu cyfraniad. Os am fwy o wybodaeth ddifyr am chwech o gewri gwahanol ond hynod werinol y mae ein dyled iddyn nhw yn fawr iawn, yn wir dyma’r gyfrol ddelfrydol at y Nadolig i genhedlaeth hen a newydd. -- John Owen (Rhuthun). @ www.gwales.com


Author Information

Tab Content 6

Author Website:  

Customer Reviews

Recent Reviews

No review item found!

Add your own review!

Countries Available

All regions
Latest Reading Guide

lgn

al

Shopping Cart
Your cart is empty
Shopping cart
Mailing List