|
|
|||
|
||||
OverviewA compilation of Lolfa puzzles, jokes, quizzes and stories for children of all ages. Full Product DetailsAuthor: Huw Aaron , Meinir Wyn Edwards , Huw AaronPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9781847717047ISBN 10: 1847717047 Pages: 96 Publication Date: 30 July 2013 Audience: Children/juvenile , Children's (6-12) Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In Print This item will be ordered in for you from one of our suppliers. Upon receipt, we will promptly dispatch it out to you. For in store availability, please contact us. Language: Welsh Table of ContentsReviews'Cyn i chi droir dudalen a dechrau darllen, well i chi wisgo eich het ddwl! Dymar cyngor yn y llyfr, ac felly, ch het yn ei lle, dechreuwch bori a gwneud ffrindiau efo cymeriadau megis Pwdu-Man, Prif Cop, Capten Clonc, Bloben, Coesau Caws a llawer o gymeriadau lliwgar eraill. Fel yr awgryma'r teitl, dyma lyfr llawn hwyl a lol yn flith draphlith o jcs, gemau, posau a storau mewn byd diffiniau ble maer amhosibl yn bosibl! Oriau o chwerthin i blant o bob oed, ynghyd newid mn yn eich poced o'r bum punt! Tybed oes gennych chi ddarllenwr anfoddog yn eich ty chi? Efallai eich bod angen llyfr ich diddanu ar daith hir yn y car os nad chi ywr gyrrwr, wrth gwrs! Angen gweithgareddau byr? Llyfr i'w rannu neu i'w ddarllen ar eich pen eich hun? Rhyw stori fach ar ffurf cartwn cyn cysgu? Maer posibiliadau'n ddiderfyn. Mewn llyfrau neu gartwnau or fath, mae gan bawb eu hoff gymeriadau ac fe awn i chwilio amdanyn nhw rhwng y cloriau cyn troi wedyn at weddill y llyfr. Posau Syr Occo yw fy ffefrynau i heb os, a Choesau Caws syn gwneud odlin haws! Does gen i fawr ddim i ddweud wrth Bloben, druan, ond maer jcs yn ddifyr a cheir elfen o wirionedd yn nifer ohonyn nhw! 'Dwin fenyw fusnes ... Ie, busnes pawb arall! Yng nghanol yr holl ffwlbri mae yma dinc o'r hen benillion ond ar newydd wedd, a cheir yma ambell gymeriad chwedlonol tafod yn y foch e.e. Pen Bendigeidfran. Dyma awdur syn gwybod ei stwff, fel petai, ac ar yr un pryd yn llwyddo i wneud i'r llyfr apelio at drawsdoriad eang o ddarllenwyr. Peidiwch disgwyl sylwedd a dwyster mawr wedi'r cyfan, nid dyna yw bwriad y llyfr ond mae yma ddeunydd ffres ac ysgafn wedi'i ddylunion atyniadol i ddenu to ifanc i godi llyfr a darllen. Andrea Parry Gellir defnyddior adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of th Welsh Books Council -- Cyngor Llyfrau Cymru Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |