|
|
|||
|
||||
OverviewA treasury of memoirs by talented author, Fflur Dafydd, who has always been seeking stars... -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Fflur DafyddPublisher: Y Lolfa Imprint: Y Lolfa ISBN: 9781784618735ISBN 10: 178461873 Pages: 148 Publication Date: 30 November 2020 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsHen air yn Shir Gar am y lleuad yw'r ganaid, dyna air cain, un sy'n llawn canu. Ac mae cyfrol Fflur Dafydd yn llawn ceinder a chan hefyd - y lloer-ganiadau. Mae'r gyfrol delynegol, agos atoch hon yn un fydd yn sicr o swyno'r darllenydd. Mae'n gyfrol lawn hiwmor ac yn hynod feddylgar ar yr un pryd. Rhoddodd bleser anferthol i fi ei darllen hi. Alla i weld wyneb Fflur Dafydd yn wyneb y lloer yn y gyfrol. Yn wir, fe alla i weld fy wyneb fy hun yn y gyfrol loyw, arian byw, hon, ac fe wnewch chithau weld eich hun hefyd, wy'n addo. Ac o dan olau'r lleuad ry'n ni'n cael golwg ar bob wyneb o gylch y lloer drwy'r mis crwn. Ceir ysgrif fer, flasus am y gwahanol weddau ar y lloer cyn pob pennod - o'r lleuad newydd, y lleuad gilgant, hyd y lleuad lawn ac yn ol - sy'n disgrifio'r lleuad ar ei thaith. Mae weithiau'n defnyddio gwyddoniaeth, weithiau farddoniaeth, i esbonio a darlunio'r berthynas hudol sydd rhyngom ni, ddynion y llawr, a'r lleuad, y llinyn arian sy'n ein clymu. Golwg ar ddarnau o fywyd Fflur a geir ymhob pennod, wedi'u cyflwyno i ni yng ngolau'r lloer. Ac o, maen nhw'n ysgrifau difyr i'w darllen. Y noson honno yr aeth hi a chriw bach o blant cynradd eraill allan adeg Calan Gaea a chael eu gadael yn ddiamddiffyn yng nghefn gwlad Ceredigion. Y cariad cyntaf. Teimladau cymhleth a lletchwith llencyndod. Y byw rhwng y ddau fyd wedi geni plentyn. Y noson pan gynhaliodd Fflur a'i brawd barti yn eu ty newydd pan oedd eu mam a'u tad oddi cartre, a drama'r canlyniadau erchyll. Mae'r straeon hyn i gyd yn ddarnau jig-so o fywyd yr awdur. Ac yn y bennod brydferth am sefyll ar fryn yng Ngheredigion rhywle tu fas i Dregaron gan aros i'r lleuad ymddangos, a hithau'n chwilio am ysbrydoliaeth ar drothwy cychwyn ysgrifennu sioe ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion na ddigwyddodd yn 2020, mae Fflur yn rhannu rhyfeddod deuoliaeth y ddaear a ni, ein bod ni bobol yn gawraidd o fawr ac eto'n bitw o fach ddi-nod hefyd. Mae mwy, cymaint mwy yn y gyfrol hon. Hanes Silas Evans, y seryddwr diymhongar o Aberystwyth; Christa McAuliffe yr ofodwraig, ac atomau a golau'r ffurfafen. Planed o gyfrol yw hi, un sy'n pefrio arnom. Mynnwch gopi a'i darllen - mae tu hwnt i'r byd hwn. -- Elinor Wyn Reynolds @ www.gwales.com Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |