|
|
|||
|
||||
OverviewThe story of one year in the life of chaired bard Aneirin Karadog and his family as they venture to live in north-western Brittany, immersing themselves into the Breton community, working life, education through the medium of Breton and everyday life and customs. -- Cyngor Llyfrau Cymru Full Product DetailsAuthor: Aneirin KaradogPublisher: Gwasg Carreg Gwalch Imprint: Gwasg Carreg Gwalch ISBN: 9781845277024ISBN 10: 1845277023 Pages: 242 Publication Date: 22 October 2019 Audience: General/trade , General Format: Paperback Publisher's Status: Active Availability: In stock We have confirmation that this item is in stock with the supplier. It will be ordered in for you and dispatched immediately. Language: Welsh Table of ContentsReviewsYdych chi erioed wedi bod ar wyliau i Lydaw ond heb glywed gair o Lydaweg yn cael ei siarad? Ydych chi erioed wedi rhyfeddu fod yna iaith sydd mor debyg i'r Gymraeg, ac eto mor annealladwy wrth ei darllen neu ei chlywed yn cael ei siarad? Dyma hanes blwyddyn y Prifardd Aneirin Karadog a'i deulu yn anturio i fyw bywyd fel Llydawyr go iawn, yn taflu eu hunain mewn i fywyd y gymuned, y byd gwaith, addysg Lydaweg ac arferion beunyddiol yng ngogledd-orllewin Llydaw. Yn y gyfrol hon, bydd Aneirin yn cyfleu beth yw byw bywyd drwy gyfrwng y Llydaweg, a hynny ar ffurf dyddiadur o fywyd y teulu yn Llydaw, cerddi am ei brofiadau ac ysgrifau yn trafod gwahanol agweddau ar chwaer-iaith y Gymraeg. -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch O blith y gwledydd Celtaidd modern, Llydaw yw’r un fwyaf dieithr i bobl Cymru, mae’n debyg. Efallai taw un o’r prif resymau dros hyn yw oherwydd bod angen deall rhywfaint o Ffrangeg er mwyn dysgu Llydaweg, am taw dyna iaith yr adnoddau dysgu gan amlaf. Ac fel yn achos Cymru, i wir ddeall y wlad, rhaid ei gweld trwy lygaid ei hiaith ei hun, a thrwy adnabod ei hanes a’i llenyddiaeth frodorol. Yn y gyfrol hon, cawn fynd i Lydaw fel y mae heddiw a’i gweld trwy lygaid Cymro Cymraeg sydd hefyd yn Llydäwr Llydaweg. Nid argraffiadau ymwelydd ar wib a gawn felly, ond profiadau rhywun sydd â throedle cadarn yn y ddwy wlad. Daw’n amlwg yn eithaf buan fod y bwlch yn llai nag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, ond sylwn yn ogystal bod gwahaniaethau sylweddol. Cyflwynir Llydaw inni trwy gyfrwng hanes teuluol, wrth i’r awdur a’i wraig ynghyd â’u dau o blant symud o Bontyberem i Kerlouan am flwyddyn. Mae’r gyfrol yn fwy, felly, na hanes un person, gan ymgorffori holl gymhlethdod addasu yn ddiwylliannol i iaith a gwlad arall, yn enwedig fel lleiafrif ieithyddol. Ceir pwyslais neilltuol ar brofiadau’r plant yn setlo mewn ysgol Lydaweg, ac yn wir, dyma echel y gyfrol. O ran addysg y gellir cymharu Llydaw a Chymru orau, a hefyd weld y gwahaniaethau rhyngddynt. Sioc i’r darllenydd yw darllen cyn lleied o gyllid a gaiff ysgolion Llydaweg, a’r ymdrechu parhaus gan rieni i’w cynnal trwy godi arian a helpu yma a thraw yn ôl yr angen. Synnir hefyd o glywed am gymhlethdodau ieithyddol y wlad: rhieni rhugl a ffraeth eu Llydaweg yn dewis magu eu plant yn Ffrangeg, a chenedlaethau cyfan wedi eu hamddifadu o’u hiaith. Ond un o gryfderau’r gyfrol yw taflu dŵr oer ar unrhyw demtasiwn i gymharu yn rhy lythrennol â Chymru. Fel y dywed yr awdur: “Llydaw yw Llydaw heddi, nid Cymru fel ag yr oedd hi ddoe”. Gwelwn anawsterau, ond hefyd nerth a gobaith. Cynyddu mae amlygrwydd a bri’r iaith, er gwaethaf popeth, ac mae merch yr awdur mewn byr o dro yn caffael y Llydaweg yn yr ysgol, a’i wraig yn ei chaffael trwy wersi nos. Awn gyda’r awdur i doreth o ddigwyddiadau yn yr iaith, lle mae gwir falchder ynddi. Prif gymwynas y gyfrol yw dod â dwy wlad sy’n siarad chwaer-ieithoedd Brythonaidd yn nes at ei gilydd trwy ddangos – yn Gymraeg – fod yna fyd Llydaweg amlweddog a bywiog. -- Morgan Owen @ www.gwales.com Ydych chi erioed wedi bod ar wyliau i Lydaw ond heb glywed gair o Lydaweg yn cael ei siarad? Ydych chi erioed wedi rhyfeddu fod yna iaith sydd mor debyg i'r Gymraeg, ac eto mor annealladwy wrth ei darllen neu ei chlywed yn cael ei siarad? Dyma hanes blwyddyn y Prifardd Aneirin Karadog a'i deulu yn anturio i fyw bywyd fel Llydawyr go iawn, yn taflu eu hunain mewn i fywyd y gymuned, y byd gwaith, addysg Lydaweg ac arferion beunyddiol yng ngogledd-orllewin Llydaw. Yn y gyfrol hon, bydd Aneirin yn cyfleu beth yw byw bywyd drwy gyfrwng y Llydaweg, a hynny ar ffurf dyddiadur o fywyd y teulu yn Llydaw, cerddi am ei brofiadau ac ysgrifau yn trafod gwahanol agweddau ar chwaer-iaith y Gymraeg. -- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch O blith y gwledydd Celtaidd modern, Llydaw yw'r un fwyaf dieithr i bobl Cymru, mae'n debyg. Efallai taw un o'r prif resymau dros hyn yw oherwydd bod angen deall rhywfaint o Ffrangeg er mwyn dysgu Llydaweg, am taw dyna iaith yr adnoddau dysgu gan amlaf. Ac fel yn achos Cymru, i wir ddeall y wlad, rhaid ei gweld trwy lygaid ei hiaith ei hun, a thrwy adnabod ei hanes a'i llenyddiaeth frodorol. Yn y gyfrol hon, cawn fynd i Lydaw fel y mae heddiw a'i gweld trwy lygaid Cymro Cymraeg sydd hefyd yn Llydawr Llydaweg. Nid argraffiadau ymwelydd ar wib a gawn felly, ond profiadau rhywun sydd a throedle cadarn yn y ddwy wlad. Daw'n amlwg yn eithaf buan fod y bwlch yn llai nag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, ond sylwn yn ogystal bod gwahaniaethau sylweddol. Cyflwynir Llydaw inni trwy gyfrwng hanes teuluol, wrth i'r awdur a'i wraig ynghyd a'u dau o blant symud o Bontyberem i Kerlouan am flwyddyn. Mae'r gyfrol yn fwy, felly, na hanes un person, gan ymgorffori holl gymhlethdod addasu yn ddiwylliannol i iaith a gwlad arall, yn enwedig fel lleiafrif ieithyddol. Ceir pwyslais neilltuol ar brofiadau'r plant yn setlo mewn ysgol Lydaweg, ac yn wir, dyma echel y gyfrol. O ran addysg y gellir cymharu Llydaw a Chymru orau, a hefyd weld y gwahaniaethau rhyngddynt. Sioc i'r darllenydd yw darllen cyn lleied o gyllid a gaiff ysgolion Llydaweg, a'r ymdrechu parhaus gan rieni i'w cynnal trwy godi arian a helpu yma a thraw yn ol yr angen. Synnir hefyd o glywed am gymhlethdodau ieithyddol y wlad: rhieni rhugl a ffraeth eu Llydaweg yn dewis magu eu plant yn Ffrangeg, a chenedlaethau cyfan wedi eu hamddifadu o'u hiaith. Ond un o gryfderau'r gyfrol yw taflu dwr oer ar unrhyw demtasiwn i gymharu yn rhy lythrennol a Chymru. Fel y dywed yr awdur: Llydaw yw Llydaw heddi, nid Cymru fel ag yr oedd hi ddoe . Gwelwn anawsterau, ond hefyd nerth a gobaith. Cynyddu mae amlygrwydd a bri'r iaith, er gwaethaf popeth, ac mae merch yr awdur mewn byr o dro yn caffael y Llydaweg yn yr ysgol, a'i wraig yn ei chaffael trwy wersi nos. Awn gyda'r awdur i doreth o ddigwyddiadau yn yr iaith, lle mae gwir falchder ynddi. Prif gymwynas y gyfrol yw dod a dwy wlad sy'n siarad chwaer-ieithoedd Brythonaidd yn nes at ei gilydd trwy ddangos - yn Gymraeg - fod yna fyd Llydaweg amlweddog a bywiog. -- Morgan Owen @ www.gwales.com Ydych chi erioed wedi bod ar wyliau i Lydaw ond heb glywed gair o Lydaweg yn cael ei siarad? Ydych chi erioed wedi rhyfeddu fod yna iaith sydd mor debyg i'r Gymraeg, ac eto mor annealladwy wrth ei darllen neu ei chlywed yn cael ei siarad? Dyma hanes blwyddyn y Prifardd Aneirin Karadog a'i deulu yn anturio i fyw bywyd fel Llydawyr go iawn, yn taflu eu hunain mewn i fywyd y gymuned, y byd gwaith, addysg Lydaweg ac arferion beunyddiol yng ngogledd-orllewin Llydaw. Yn y gyfrol hon, bydd Aneirin yn cyfleu beth yw byw bywyd drwy gyfrwng y Llydaweg, a hynny ar ffurf dyddiadur o fywyd y teulu yn Llydaw, cerddi am ei brofiadau ac ysgrifau yn trafod gwahanol agweddau ar chwaer-iaith y Gymraeg. -- Gwasg Carreg Gwalch Author InformationTab Content 6Author Website:Countries AvailableAll regions |